Mae’n ddiwrnod Steddfod y Clybie yng Ngheredigion, a thrwy gydol y dydd bydd yr aelodau’n dod â’r diweddara o’r digwyddiad – o ganlyniadau i luniau, o gyfweliadau i farn y beirniaid answyddogol, ar y blog byw yma ar wefan fro newydd sbon BroAber360.
Uchafbwyntiau:
- Clwb Pontsian gipiodd y Steddfod, yr adran lwyfan a’r adran gwaith cartref
- Twm Ebbsworth o Glwb Llanwenog enillodd y Gadair a’r Goron
- Heledd Besent yn cipio tair gwobr ac Unawdydd Gorau’r Steddfod
- Yr aelodau’n cydio yn y cyfle i ‘ddarlledu’ eu steddfod trwy greu a chynnal y blog byw yma!
Beth yw’r farn am berthynas CFfI Ceredigion ac NFYFC?
Mae rhai o’r aelodau wedi bod yn meddwl am y berthynas yn sgil trafodaethau am newid ar lefel CFfI Ceredigion yn ddiweddar.
Mae da nhw fanteision gweld CFfI Ceredigion yn rhan o CFfI Cymru yn unig; manteision bod yn aelod o Glybiau Ffermwyr Ifanc Cymru a Lloegr (NFYFC); ac maen nhw wedi bod yn meddwl am y cwestiynau licen nhw gael atebion iddynt.
Ie… ar ôl dilyn y diweddara ar y blog byw (https://t.co/BLzQk4a965) pa glwb chi'n meddwl sy'n mynd i ennill #steddfodcardi eleni?
— ? Bro360 (@Bro__360) November 2, 2019
#balch #steddfodcardi @CeredigionYFC profiadau newydd! diolch @cffibrodderi a @CeredigionYFC
— Trish (@lleuadolaf) November 2, 2019
? CANLYNIAD – UNAWD SIOE GERDD ?
1af – Heledd Besent, Clwb Mydroilyn
2il – Beca Williams, Clwb Tal-y-bont
Gydradd 3ydd – Lowri Elen Jones, Clwb Bro’r Dderi a Glesni Morris, Clwb Llangwyryfon
Mae’r Aelod Seneddol Ben Lake yma, a cawsom sgwrs am bwysigrwydd a safon y Steddfod.
Sgwrs gyda Twm Ebbsworth munudau ar ôl iddo gamu o’r llwyfan wedi ennill y Goron a’r Gadair – a gwarandewch tan y diwedd am ymwelydd arbennig!
Mwy am ei gamp yn y stori yma.
? CANLYNIAD – CÂN GYFOES ?
1af – Clwb Caerwedros
? CANLYNIAD – PARTI LLEFARU ?
1af – Clwb Lledrod
2il – Clwb Bro’r Dderi
3ydd – Clwb Llanwenog
Fideo o Alwena Mair Owen, aelod blwyddyn gynta o Glwb Pontsian yn trafod ei phrofiadau.