CFfI Ceredigion – YN FYW o’r Steddfod

Aelodau CFfI Ceredigion sy’n dod â holl hwyl #steddfodcardi yn fyw o Bafiliwn Bont.

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mae’n ddiwrnod Steddfod y Clybie yng Ngheredigion, a thrwy gydol y dydd bydd yr aelodau’n dod â’r diweddara o’r digwyddiad – o ganlyniadau i luniau, o gyfweliadau i farn y beirniaid answyddogol, ar y blog byw yma ar wefan fro newydd sbon BroAber360.

Uchafbwyntiau:

  • Clwb Pontsian gipiodd y Steddfod, yr adran lwyfan a’r adran gwaith cartref
  • Twm Ebbsworth o Glwb Llanwenog enillodd y Gadair a’r Goron
  • Heledd Besent yn cipio tair gwobr ac Unawdydd Gorau’r Steddfod
  • Yr aelodau’n cydio yn y cyfle i ‘ddarlledu’ eu steddfod trwy greu a chynnal y blog byw yma!

19:04

18:59

Fideo o Alwena Mair Owen, aelod blwyddyn gynta o Glwb Pontsian yn trafod ei phrofiadau.

18:55

Lowri Pugh-Davies, sydd wedi creu’r Goron eleni’n trafod y gwaith aeth mewn i’w creu.

18:53

18:50

Twm – ti wedi neud hi! ??

18:15

FFRWD BYW O’R CADEIRIO AR DUDALEN FACEBOOK BRO360 WAN!

Seremoni coroni a chadeirio CFfI Ceredigion

Posted by Bro360 on Saturday, 2 November 2019

18:10

Gwion Ifan, o Glwb Pontsian yn cyfweld Gwion Thomas, hefyd o’r Clwb wedi’r Unawd Sioe Gerdd

 

18:05

Gwion Ifan, o Glwb Pontisan yn cyfweld Heledd Llwyd, hefyd o’r Clwb cyn yr Unawd Sioe Gerdd

17:54

Pwy fydd yn fuddugol yn y brif seremoni?

Endaf sy’n dal y gyfrinach!

17:50

? CANLYNIAD – ENSEMBLE LLEISIOL ?

 

1af – Clwb Llanwenog

2il – Clwb Caerwedros

Cydradd 3ydd – Clwb Tal-y-bont a Chlwb Pontsian