CFfI Ceredigion – YN FYW o’r Steddfod

Aelodau CFfI Ceredigion sy’n dod â holl hwyl #steddfodcardi yn fyw o Bafiliwn Bont.

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mae’n ddiwrnod Steddfod y Clybie yng Ngheredigion, a thrwy gydol y dydd bydd yr aelodau’n dod â’r diweddara o’r digwyddiad – o ganlyniadau i luniau, o gyfweliadau i farn y beirniaid answyddogol, ar y blog byw yma ar wefan fro newydd sbon BroAber360.

Uchafbwyntiau:

  • Clwb Pontsian gipiodd y Steddfod, yr adran lwyfan a’r adran gwaith cartref
  • Twm Ebbsworth o Glwb Llanwenog enillodd y Gadair a’r Goron
  • Heledd Besent yn cipio tair gwobr ac Unawdydd Gorau’r Steddfod
  • Yr aelodau’n cydio yn y cyfle i ‘ddarlledu’ eu steddfod trwy greu a chynnal y blog byw yma!

19:46

Mae’r Aelod Seneddol Ben Lake yma, a cawsom sgwrs am bwysigrwydd a safon y Steddfod.

19:28

Sgwrs gyda Twm Ebbsworth munudau ar ôl iddo gamu o’r llwyfan wedi ennill y Goron a’r Gadair – a gwarandewch tan y diwedd am ymwelydd arbennig!

Mwy am ei gamp yn y stori yma.

19:25

? CANLYNIAD – CÂN GYFOES ?

1af – Clwb Caerwedros

19:14

? CANLYNIAD – PARTI LLEFARU ?

1af – Clwb Lledrod

2il – Clwb Bro’r Dderi

3ydd – Clwb Llanwenog

19:04

18:59

Fideo o Alwena Mair Owen, aelod blwyddyn gynta o Glwb Pontsian yn trafod ei phrofiadau.

18:55

Lowri Pugh-Davies, sydd wedi creu’r Goron eleni’n trafod y gwaith aeth mewn i’w creu.

18:53

18:50

Twm – ti wedi neud hi! ??

18:15

FFRWD BYW O’R CADEIRIO AR DUDALEN FACEBOOK BRO360 WAN!

Seremoni coroni a chadeirio CFfI Ceredigion

Posted by Bro360 on Saturday, 2 November 2019