Byw’n wyrdd(ach) yng ngogledd Ceredigion

Holi Mari Elin am fyw’n wyrddach yng ngogledd Ceredigion wedi lansiad ei llyfr newydd.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Nos Iau, lansiwyd llyfr, Gwyrddach, gan yr awdures o Flaencaron, Mari Elin, yn Aberystwyth. Llyfr o gynghorion a gwybodaeth ynghylch sut i fyw yn ddiwastraff ac yn ddiblastig yw e, gyda phwyslais ar addasu bywyd bob dydd.

Fe wnaeth Bro360 holi Mari Elin am fyw yn wyrddach yng ngogledd Ceredigion.

*

Pa mor hawdd, neu anodd, yw byw’n wyrdd(ach) yng ngogledd Ceredigion?

ME: Dwi’n meddwl bod rhywbeth am fyw yng nghanol cefn gwlad yn siwtio ffordd o fyw gwyrddach…. yn enwedig os ti’n ddigon ffodus i fod â gardd neu ddarn o dir i allu tyfu bwyd dy hun! Mae pethau fel siopa bwyd yn gallu bod yn anodd ar adegau – anaml iawn y bydda i’n gallu gwneud yn hollol ddiwastraff a diblastig.

Er hynny, mae pethau’n dechrau gwella yma yn Aberystwyth; mae ffrwythau a llysiau lleol (pan yn bosib) ac organig ar gael mewn siopau fe Treehouse, Maeth y Meysydd, Medina a chigydd Morgans, a siopau bara, cig a physgod ffres gyda ni, yn ogystal â’r Farchnad Ffermwyr ddwywaith y mis. Mae Treehouse hefyd yn dechrau adran ddiwastraff lan stâr, lle mae modd i chi fynd â’ch bagiau neu’ch jariau eich hun i’w llenwi gan wneud i ffwrdd â phecynnu plastig diangen, ac wrth gwrs mae Treehouse 2 yn siop wych ar gyfer nwyddau diwastraff ar gyfer y corff a’r cartref.

Ymhellach oddi wrth Aberystwyth hefyd, mae siopau bach annibynnol gwych yn cynnig cynnyrch ffres a nwyddau diwastraff; llefydd fel siop a chaffi cymunedol Cletwr yn Nhre’r Ddol, Siop y Bont ym Mhontrhydfendigaid a Watson & Pratt’s yn Llambed i enwi ond ambell un.

A wyt ti’n gweld potensial i ymwybyddiaeth o ffyrdd o fyw gwyrddach dreiddio trwy’r gymdeithas yn y rhan hon o Gymru, a dod yn beth normal?

ME: Yn bendant!  Ond dw’i yn meddwl ei bod hi’n beth pwysig iawn torri’r stereoteip yma fod ffordd o fyw werdd yn rhywbeth eithafol, ac yn gyfystyr â byw mewn pabell mewn coedwig lle mae pawb yn tyfu’u gwallt yn hir a neb yn ymolchi!

Ry’n ni gyd yn rhannu’r un ddaear, boed ni yng Ngheredigion neu’r Amazon, ac mae gan bob un ohonom ni ein rhan fach i’w chwarae wrth ei diogelu.  Mae gallu byw ychydig yn wyrddach a llai gwastraffus yn dod yn haws ac yn haws, a beth dw’i yn gweld fel peth calonogol iawn yw bod y genhedlaeth iau yn cael eu magu i feddwl bod defnyddio bagiau siopa, cwpanau coffi a photeli dŵr ailddenfyddiadwy yn hollol normal.

Beth gall pobl yr ardal hon ei wneud i ddechrau byw’n wyrddach?

ME: Wel, i ddwyn geiriau Dewi Sant… “gwnewch y pethau bychain”.  Pethau mor syml â chario potel ddŵr i’w hail-lenwi, defnyddio bagiau siopa a chwpanau ailddefnyddadwy ac edrych ar ffyrdd eraill, mwy naturiol, o lanhau’r tŷ er enghraifft.  Mae pob math o newidiadau bach allwn ni gyd eu gwneud yn ein bywyd bob dydd, ac mae newid bach yn arwain at newid mawr.

*

Clywodd cynulleidfa niferus am sut y bu iddi ysgrifennu’r llyfr, a wnaeth ddechrau gyda ei blog, Gwyrddach. Cafodd hi ei holi ar y noson gan yr arlunydd o Aberystwyth, Efa Lois, a dangoswyd hefyd ffilm Mari Huws, Arctig: Môr o Blastig, am y gwastraff sy’n cyrraedd glannau mwyaf anghysbell y byd.

Cyhoeddir Gwyrddach gan Wasg y Bwthyn.