Mae’r Ffair Grefftau… AR AGOR!
Croeso i Ffair Grefftau gyntaf BroAber360!
Mae rhai o grefftwyr gorau’r fro wedi dod at ei gilydd dan faner Crefftwyr Aberystwyth i arddangos a gwerthu eu cynnrch arbennig.
Gydol y prynhawn byddwn yn helpu’r criw i rannu gwybodaeth am bob stondin. A’ch rôl chi? Prynu!
Achos mae prynu’n lleol am helpu’r gymdeithas leol…
Trydydd sesiwn yn y gyfres creu pypedau
Mwynhewch!
Dyma rhan olaf y gweithdy pypedau gydag @AradGoch, fel rhan o Ddiwrnod Digwyddiadau Digidol @BroAber_360 #EinBro https://t.co/gH7jCyTCoC
— BroAber360 (@BroAber_360) June 12, 2020
Ail ran y sesiwn creu pypedau
Rhowch wybod sut hwyl chi’n cael ar greu pypedau gyda Jeremy!
Gweithdy pypedau gydag @AradGoch , fel rhan o Ddiwrnod Digwyddiadau Digidol @BroAber_360 BroAber360
Dyma rhan DAU! Byddwn ni'n rhannu rhan tri am 2:40!#EinBro https://t.co/0wz64H7kcl— BroAber360 (@BroAber_360) June 12, 2020
Sesiwn creu pypydau
Dyma’r cyntaf o dri sesiwn creu pypedau gan Gwmni Theatr Arad Goch!
Pnawn o sesiynau gan bobol y fro
Croeso i ffrwd Diweddaraf BroAber360 – y lle i weld llwyth o sesiynau gwahanol trwy’r pnawn.
A’r cyfan wedi’u creu gennych chi – bobol y fro!
Heddiw – lot o bethau gwahanol gan bobol gogledd Ceredigion.
Y cyfan yn rhan o #EinBro – lansiad digidol @BroAber_360
reid feics fyw – economi leol – crefft a chelf – côr – hanes lleol – gig
Fan hyn, trwy'r pnawn ?https://t.co/k7H8yZgK12 pic.twitter.com/vZecs8BVYE
— ? Bro360 (@Bro__360) June 12, 2020
Llwyth o weithgareddau difyr gan @BroAber_360 drwy’r dydd heddi – cofiwch wylio #ynunrhith am 5.15 pnawn ma! ??#EinBro #aberystwyth #côrrhithwir @Cor_Dinas @andrewcusworth https://t.co/TS0ON39Dn5
— Côr ABC (@CorABC1) June 12, 2020
Ras feics rithiol – holwch gwestiynau i Gruff
Griff Lewis yw Pencampwr presennol Cymru am reidio ar y rhewl.
Mae’r beiciwr o Dal-y-bont yn cymryd rhan mewn reid rithiol sydd wedi’i drefnu’n arbennig ar gyfer BroAber360 heddiw!
Gwyliwch y cyfan ar Facebook BroAber360, a holwch gwestiynau i Gruff trwy adael sylw.
Maen nhw newydd fod yn trafod sut byddan nhw’n cael brêc i fynd i’r tŷ bach!
Reid feics rithiol – nawr yn fyw!
Mae Shelley Childs yn ein harwain ni drwy iwtopia mewn ras feics ddigidol – lle mae pawb yn reidio yn erbyn ei gilydd o’u cartrefi!
Reid Beics Rhithiol
Rydym yn cael problemau technegol fo’r reid beics rhithiol, a da ni’n gobeithio dangos hyn yn hwyrach. Ymddiheuriadau!
O Aber i bellter byd
A ninnau i gyd yn sownd o hyd yn ein tai, peth rhyfygus braidd yw sôn am deithio. A peth mwy gwyrdroëdig fyth wedyn yw sôn am deithio mor bell ag India!
Darllen rhagor