O Aber i bellter byd

A ninnau i gyd yn sownd o hyd yn ein tai, peth rhyfygus braidd yw sôn am deithio. A peth mwy gwyrdroëdig fyth wedyn yw sôn am deithio mor bell ag India!

eurig salisbury
gan eurig salisbury
005fb715-0036-4010-adf3

Eurig Salisbury a Sampurna Chattarji

Rhyfedd meddwl, wedi dros ddeufis o fod yn gaeth i’r milltir sgwâr yma ar Ffordd y Gogledd yn Aberystwyth, fy mod i wedi ymweld ag India ddwywaith dros y chwe mis diwethaf. Ddiwedd Tachwedd y llynedd, ro’n i ar awyren o Heathrow i Delhi, a chopi newydd ei argraffu o gerddi i blant yn aros amdana’ i ar ben draw’r daith.

Mynd yno’r o’n i er mwyn hyrwyddo The Bhyabachyaka and Other Wild Poems (Scholastic India), casgliad newydd o gerddi i blant yr o’n i wedi’i ysgrifennu ar y cyd â Sampurna Chattarji, bardd a nofelydd sy’n byw ym Mwmbái. Er pan gwrddon ni am y tro cyntaf mewn gweithdy cyfieithu yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn 2011, dwi a Sampurna wedi cydweithio ar nifer o wahanol brosiectau – yn cynnwys cyhoeddi cyfrol o gerddi i oedolion y llynedd, Elsewhere, Where Else / Lle Arall, Ble Arall (Poetrywala) – ac ry’n ni’n gyfeillion da iawn.

Fel mae teitl y gyfrol yn ei awgrymu, cerddi Saesneg sy yn The Bhyabachyaka, ond maen nhw i gyd yn seiliedig ar eiriau Cymraeg a Bangla ro’n i a Sampurna wedi’u rhoi i’n gilydd er mwyn sbarduno’r awen. Y gair hwnnw yn y teitl, er enghraifft, bhyabachyaka. Rhoddodd Sampurna’r gair imi heb esbonio’r ystyr o gwbl, a hynny o fwriad – fy nhasg i oedd ymateb fel y gwelwn i’n dda i sain y gair. Daeth i’r meddwl yn syth ddarlun o frân fawr ddu’n crawcian ar sìl y ffenest, a finnau tu mewn yn methu’n lân â sgwennu cerdd! Eto i gyd, mae’r gerdd fer honno yn y casgliad, ynghyd â cherddi gan Sampurna’n ymateb i eiriau gen i a oedd yn ddieithr iddi, fel ‘ffrwchnedd’, ‘clindarddach’ a ‘dant’, ynghyd â geiriau roedd hi’n eu hadnabod yn dda eisoes, fel ‘cynghanedd’, ‘eisteddfod’ a ‘da iawn’, am ei bod hi wedi ymweld â Chymru droeon bellach ac yn hen gyfarwydd â’r iaith Gymraeg. Un dasg arall a roeson ni i’n gilydd oedd creu geiriau newydd sbon, a chael hwyl wedyn yn creu ystyron newydd ar eu cyfer yn ein cerddi, geiriau fel ‘caffalacious’, ‘plwb’, ‘flipingaliti’ a ‘cyfleithwy’. Os hoffet ti wybod eu hystyron, bydd yn rhaid iti ddarllen y gyfrol!

Fe ges i a Sampurna lawer o hwyl yn darllen ein cerddi newydd mewn ysgolion ac mewn gwyliau llenyddol yn Delhi, ac yna wedyn am yr eildro yn Kolkata ddiwedd Ionawr. Daeth yn amlwg inni fod yr hyn ro’n ni wedi bod yn ei wneud wrth greu’r cerddi – sef cyfnewid geiriau a syniadau – yn gweithio hefyd yn y dosbarth. Roedd y plant wrth eu bodd yn dysgu am Gymru, yn creu geiriau newydd, yn dyfeisio ystyron ac yn rhannu â ni eiriau diddorol o’u hieithoedd nhw. Wedi’r cyfan, mae dros saith gant a hanner o ieithoedd yn cael eu siarad yn India.

Daw’r dydd eto pan fyddwn ni i gyd yn medru teithio’n rhydd, ac rwy’n gobeithio’n fawr y caf i gyfle i weld Sampurna eto, naill ai yn India neu yma yng Nghymru. Tan hynny, bydd cerddi’r gyfrol yn fodd i’n cadw ni, ein hieithoedd a’n diwylliannau gwahanol ynghyd.

I wrando ar sgwrs rhyngof i a Sampurna, ynghyd â darlleniad ganddi o’i cherdd ‘Eisteddfod’, clicia fan hyn. Recordiwyd y sgwrs yn Delhi ddechrau Rhagfyr, ac fe’i cynhwyswyd yn rhifyn y mis hwnnw o bodlediad Clera.