Erbyn hyn, mae modd i 15 person gymryd rhan mewn gweithgareddau dan do yng Nghymru, os ydynt wedi’u trefnu gan glwb neu gorff cydnabyddedig.
Er bod nifer o fudiadau wedi dygymod â’r argyfwng drwy droi at ffyrdd digidol o gwrdd, nid yw hynny wedi bod yn bosib i bawb. Felly, gall rheolau newydd Llywodraeth Cymru fod o fudd i griwiau bach sydd am gyfarfod unwaith yn rhagor, boed hynny am sgwrs neu sesiwn ymarfer corff.
Er mwyn eich helpu i ystyried y pethau pwysig cyn trefnu cyfarfod dan do, dyma restr o ganllawiau ymarferol fydd yn eich helpu i gadw pawb yn iach ac yn saff os byddwch yn dewis cwrdd.
Y rheolau euraid
Rhaid i bawb ddilyn rheolau euraid y coronafeirws ar bob achlysur:
- cadw pellter cymdeithasol o 2m bob amser, gan gynnwys yn yr awyr agored
- gwisgo gorchudd wyneb
- golchi dwylo yn rheolaidd
Canllawiau i drefnwyr:
Y trefnwyr fydd yn gyfrifol am gymryd pob cam rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws neu fod y feirws yn cael ei ledaenu:
- rhaid i drefnydd digwyddiad gynnal asesiad risg cyn cynnal gweithgaredd
- dylid ceisio cwrdd â phobl yn yr awyr agored yn hytrach nag o dan do, os oes modd
- os nad yw hynny’n bosib, dylai’r trefnwyr ystyried pa mor dda y mae’r ystafell wedi’i hawyru ac a oes digon o le i sicrhau bod modd cynnal pellter corfforol o 2m
- ni chewch gynnal eich gweithgaredd mewn cartref neu ardd breifat
- cadwch eich sesiynau’n fyr ac yn fach o ran nifer y cyfranogwyr
- ni ddylid gwerthu nac yfed alcohol yn y digwyddiadau
Y gweithgareddau:
- dylid osgoi gweithgareddau sy’n ymwneud â chanu, llafarganu neu weiddi oherwydd y risg ychwanegol o heintio, hyd yn oed os cedwir pellter cymdeithasol a defnyddio gorchuddion wyneb
- ni ddylid chwarae offerynnau cerdd, megis offerynnau gwynt, dan do
- ni ddylid caniatáu gweithgareddau sy’n golygu cychwyn fesul ton neu fesul cam, os oes unrhyw risg o fynd yn groes i’r rheol ‘15 person dan do’
Cynnal gweithgareddau i blant:
- caniateir cynnal gweithgareddau ar gyfer datblygiad a llesiant plant, fel clybiau chwaraeon, dosbarthiadau drama, grwpiau rhieni a phlant bychain, grwpiau ieuenctid a grwpiau crefyddol yn yr awyr agored a dan do
- dylid ystyried y gwagle sydd ar gael i alluogi cadw pellter cymdeithasol cyhyd ag y bo modd gyda phlant, yn hytrach na gwahodd yr uchafswm nifer o blant
Ailagor canolfannau yn y gymuned
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi llunio dogfen ganllaw ymarferol i helpu cyfleusterau canolfannau cymunedol i ailagor ar ôl cyfnod hir o fod ar gau.
Mae’n cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol ynglŷn â bacteria legionella, asesiadau risg a chreu rota glanhau.
Neges Llywodraeth Cymru
Bydd rhagor o ganllawiau ar y gweithgareddau hyn yn cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn fuan.