Ras 10k Aber yn dychwelyd ac yn cefnogi elusen leol

Mae un o’r rasys pwysicaf yn y calendr athletau lleol yn ei hôl

gan Deian Creunant

Caiff 26ain ras elusennol 10k Aberystwyth ei chynnal eleni ar ddydd Sul, Rhagfyr 1af, ac yn ôl yr arfer bydd digwyddiadau i oedolion a phobl ifanc fel ei gilydd ac mae’n bosib bellach gwneud cais am le.

Bydd ychydig o newid i’r cwrs eleni oherwydd y gwaith ar bromenâd Aberystwyth ond bydd llawer o’r cwrs yn dilyn llwybr tebyg i flynyddoedd blaenorol gan gynnig cwrs gwastad a chyflym i redwyr.

Roedd ofnau y gallai fod angen gohirio neu ganslo’r ras eleni, ond fel yr eglura un o’r trefnwyr Kirsten Hughes, mae ymdrechion sylweddol wedi’u gwneud i sicrhau bod y ras yn mynd yn ei blaen,

“Pan gawson ni wybod am y gwaith ar y promenâd, fe ddechreuon ni drafodaethau gyda phartneriaid perthnasol ar lwybrau amgen posib gan fod hon yn ras mor bwysig yn y calendr athletau lleol ac nid oeddem yn awyddus i’w cholli, hyd yn oed am flwyddyn,

“Rydym wedi cael cefnogaeth wych gan gyngor Ceredigion gan eu bod nhw hefyd yn cydnabod ei phwysigrwydd ac rydym wrth ein bodd y bydd yn digwydd eleni.”

Bydd y brif ras yn cychwyn am 1pm yn y maes parcio ger Clwb Pêl-droed Aberystwyth, ac yna bydd rhedwyr yn dilyn y llwybr beicio a’r llwybrau troed allan i ac o gwmpas Ystâd Ddiwydiannol Glanyrafon, cyn dilyn yr un llwybr yn ôl.

Fel sy’n gweddu i’w henw, mae’r ras unwaith eto wedi dynodi elusen leol a fydd yn elwa a’r elusen a enwebwyd eleni yw HAHAV Ceredigion. Mae’r elusen hosbis yn y cartref lleol wedi lansio ymgyrch codi arian eleni mewn ymgais i ddiogelu a datblygu ei gwasanaethau ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

Roedd yn amserol felly i gefnogi’r elusen leol fel y dywed Kirsten,

“Mae HAHAV Ceredigion yn darparu gwasanaethau hanfodol ar draws y sir ac rydym yn falch iawn o allu eu cefnogi yn eu gweithgareddau codi arian parhaus.”

Ychwanegodd Mick O’Reilly, Golygydd y Cambrian News, sydd yn noddi’r ras,

“Mae HAVAV yn elusen leol anhygoel sy’n cynorthwyo’r rhai â salwch tymor hir a’u gofalwyr gydag adnoddau hanfodol sy’n cael eu datblygu a’u darparu yn y gymuned. Mae’r Cambrian News yn hapus i gefnogi’r fenter wych hon.”

Mae Cadeirydd HAHAV Ceredigion, Gwerfyl Pierce Jones, yn falch iawn o dderbyn cefnogaeth y digwyddiad,

“Rydym yn wynebu sefyllfa lle mae angen i ni fuddsoddi yn ein hisadeiledd er mwyn i ni allu parhau i ddarparu gwasanaethau hosbis yn y cartref y mae mawr eu hangen. Mae’n gyfnod heriol i ofyn i bobl gyfrannu’n ariannol ond mae’r gefnogaeth yn lleol dros y misoedd diwethaf wedi bod yn aruthrol.

“Ar ran HAHAV Ceredigion hoffwn ddiolch i drefnwyr ras 10k Aberystwyth am eu cefnogaeth a dymuno’n dda i bob rhedwr, hen ac ifanc, wrth iddynt fynd i’r afael â’r cwrs ym mis Rhagfyr.”

Bydd yr holl arian a godir yn mynd tuag at ddatblygu Plas Antaron fel Canolfan Byw’n Dda ac ehangu gwasanaethau gwirfoddol yr elusen ar draws Ceredigion.

I gofrestru ar gyfer y ras ewch i wefan Clwb Athletau Aberystwyth: https://aberystwythac.wordpress.com/aber-10k/