Mae Cyngor Tref Aberystwyth wedi gosod 100 o welyau garddio uchel ar yr hen lawnt fowlio rhwng yr hen swyddfa dreth a Choedlan Plascrug.
Nid oes defnydd wedi bod ar yr hen lawnt fowlio ers blynyddoedd ac mae gwaith sylweddol wedi mynd i sicrhau fod y cyfle yma ar gael. Diolch i Brifysgol Aberystwyth am barhau gyda’i diddordeb yn y fenter gan mai nhw yw perchnogion y tir.
Bydd y lleoedd tyfu yn cael eu dyrannu i bobl ar restr aros rhandiroedd y Cyngor yn ogystal â chyfran yn cael ei rhoi i’r Brifysgol a’r Gwasanaeth Iechyd.
Daw’r datblygiad o fewn 9 mis i’r gerddi newydd yn Nhrefechan:-
Gardd newydd i drigolion Trefechan
Yn ogystal, mae’r Cyngor yn rhedeg rhandiroedd mewn dau safle gwahanol ym Mhenparcau, sef Caeffynnon a’r Bumed Goedlan. Safle’r Bumed Goedlan yw’r un mwyaf gyda 27 o leiniau am £42 yr un yn flynyddol. Dim ond 7 llain sydd ar safle Caeffynnon am £39 yr un bob blwyddyn. Mae’r rhandiroedd wedi’u diogelu gyda chlo clap ac allwedd. Er bod ffi flynyddol, mae yna reolau sy’n llywodraethu’r defnydd o le rhandir a gallai methu â chadw atynt arwain at derfynu’r drwydded flynyddol.
Mae hyd yn oed Adam yn yr Ardd yn canmol y fenter!
Dylai unrhyw un sydd am ychwanegu ei enw at unrhyw restr aros gysylltu â Chyngor Tref Aberystwyth drwy cyngor@aberystwyth.gov.uk