Côr Stryd Aberystwyth

Canu i godi arian i elusennau

gan Sue jones davies

Bob blwyddyn mae côr o bobl leol yn dod at ei gilydd i ganu am yr wythnos yn arwain at y Nadolig o flaen Savers yn Aberystwyth.

Y tro hwn, codwyd £880, sydd wedi’i rannu rhwyng pedair elusen: Beiciau Gwaed, HAHAV, Lloches Nos Aberystwyth ac Ukraine Train.

Fel bob amser, diolchwn i bobl Aberystwyth a’r cyffiniau am eu haelioni.