Penparcau yn cofio

Gwasanaeth Sul y Cofio yn Neuadd Goffa Penparcau

Mererid
gan Mererid
IMG-20241110-WA0005
IMG-20241110-WA0007

Gyda Neuadd Goffa Penparcau yn dathlu 96 mlynedd ers agor yn 1928, roedd yn briodol i gael gwasanaeth Sul y Cofio ar ddydd Sul 10fed o Dachwedd 2024.

Fel yn y gwasanaethau mewn digwyddiadau blaenorol, gweinyddwyd yr oedfa gan offeiriad Eglwys St Anne’s, Rebecca Evans.  Cafwyd araith bersonol gan y cyn-aelod seneddol Mark Williams, a chafwyd coffhau i waith Frank Evans (oedd yn garcharor rhyfel yn Japan) ar ei waith yn gefeillio Aberystwyth a Yosana yn Japan gan y Maer Maldwyn Pryse.

Yn dilyn y gwasanaeth, gosodwyd torchau cofio yn Neuadd Goffa (sydd yn ffurfiol yn cofio aberth yr holl filwyr o ardal Penparcau), ac yna, cerdded i gofeb breifat Southgate (Tollborth y De) i goffáu etifedd Nanteos, yr Is-gapten William Edward George Pryse Wynne Powell oedd yn 19 mlwydd oed, pan gafodd ei ladd ar y 6ed o Dachwedd 1918, pum niwrnod cyn y Cadoediad. Mae mwy o wybodaeth am yr hanes yma: –

Hanes Agor Neuadd Goffa Penparcau

Gweinyddwyd te a lluniaeth gan bwyllgor y Neuadd Goffa a diolch am eu haelioni.

Dweud eich dweud