Uno cymunedau mewn cân

Diwrnod o weithgarwch canu 24 Chwefror 2024

Côr Gobaith
gan Côr Gobaith
Aleida-Guavera-Nov-2017

Mae Côr Gobaith – côr stryd sy’n canu dros heddwch, cyfiawnder cymdeithasol a’r amgylchedd – wedi bod wrthi’n brysur dros yr wythnosau diwethaf yn paratoi diwrnod o weithgarwch i uno cymunedau mewn cân.

Yn dilyn Cyfarfod Blynyddol y côr y llynedd, penderfynwyd cynnal digwyddiad fyddai’n rhoi cyfle i ddysgu mwy am ddiwylliant y gymuned ffoaduriaid a cheiswyr lloches ac i wneud hynny trwy gân, gyda’r nod o ddatblygu cyd-ddealltwriaeth rhwng y grwpiau hyn a’r gymuned leol.

Datblygodd y syniad yn brosiect cydweithredol gyda Chôr Un Byd Oasis – côr ffoaduriaid o Gaerdydd. Ac felly, ar brynhawn Sadwrn, 24 Chwefror, bydd arweinwyr y ddau gôr yn cynnal gweithdy canu gan ddysgu a rhannu caneuon o wahanol ddiwylliannau er mwyn cryfhau’r cyswllt rhwng ein cymunedau a dod i ddeall ein gilydd yn well. Mae’r gweithdy yn agored i bawb ond bydd croeso arbennig i unigolion o’r gymuned ffoaduriaid neu ceiswyr lloches (mae’r gweithdy yn prysur lenwi felly ebostiwch corgobaith@gmail.com i weld a oes llefydd ar ôl).

Dywedodd Nest Howells, Arweinydd Côr Gobaith: “Rydym yn gôr sydd wedi bod yn canu dros y materion sy’n bwysig i ni ers dros 15 mlynedd. Ers y cychwyn, rydym wedi croesawu pobl o bob math o gefndiroedd yn aelodau o’r côr – pobl anabl, pobl o’r gymuned LGBTQ+ a phobl o bob rhan o’r byd. Eleni, penderfynwyd canolbwyntio ar y cyswllt gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches.”

Ychwanegodd: “Mae wedi bod yn broses hir a dim ond trwy dderbyn grant o Lywodraeth Cymru trwy Gronfa Cydlyniant Cymunedol Canolbarth a De-orllewin Cymru yr ydym wedi gallu symud ymlaen â’r diwrnod. Rydym felly’n ddiolchgar iawn am y cyllid hwn, ac yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu Côr Un Byd Oasis i Aberystwyth.”

Am 7 o’r gloch ar yr un diwrnod, cynhelir cyngerdd er budd AberAid a Chanolfan Oasis yn Amgueddfa Ceredigion a fydd yn cynnwys perfformiadau gan fynychwyr y gweithdy, Côr Gobaith, Côr Un Byd Oasis ac eraill.

Fel y dywed Côr Un Byd Oasis ar eu gwefan: “Mae gennym rwydwaith hynod gefnogol o wirfoddolwyr cerddorol o’r gymuned leol ac o gymuned y ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Y canlyniad yw criw o bobl arbennig o bob rhan o’r byd yn creu cerddoriaeth gyda’i gilydd ac, o wneud hynny, caiff rhwystrau a ffiniau eu chwalu mewn modd unigryw ac arbennig iawn. Mae canu yn wirioneddol uno cymunedau.”

Cynhelir y gweithdy yng Nghanolfan St Paul’s, Aberystwyth o 1.30, dydd Sadwrn, 24 Chwefror, a bydd y cyngerdd yn Amgueddfa Ceredigion am 7.00 (mynediad trwy gyfraniad wrth y drws).

Ariennir gan gyllid trwy Raglen Cydlyniant Cvmunedol Llywodraeth Cymru.