Bwca

Noson yng nghwmni Bwca

gan Sue jones davies

Roedd hi’n noson wych nos Wener diwethaf, y 26ain, yn y Llew Gwyn, Tal-y-bont, yng nghwmni’r band lleol Bwca.

Mae’r grŵp yn cynnwys Steff Rees – gitâr acwstig a llais, Iwan Hughes – cajon a llais, Peter Evans – bas, a Hannah McCarthy – sax a llais.

Yn ogystal â bod yn aelod o Bwca, mae Steff yn adnabyddus am ei waith yn arwain y grŵp iwcalilis, Iwcadwli, prosiect Cymraeg gyda chymysgedd cyfoethog o siaradwyr Cymraeg rhugl a dysgwyr ysbrydoledig.

Mae albwm diweddaraf Bwca, HAFOD, allan nawr, ac roedd Phil Davies, a sgwennodd eiriau rhai o’r caneuon newydd, yno yn y gynulleidfa i gyflwyno’r band.