O Bontcanna i Bentawe: Dwy Gymru Robat Gruffudd

“Mae ffraethineb yr awdur yn heintus a’i allu i ddychanu yn taro i’r dim.” – geiriau Ioan Kidd

gan Gwenllian Jones
Gobaith-Mawr-y-Ganrif-clawr-blaen

Clawr nofel newydd Robat Gruffudd, Gobaith Mawr y Ganrif

llun-Robat-Gruffudd

Llun yr awdur a sylfaenydd Y Lolfa, Robat Gruffudd


“Gallech ddadlau mai Caerdydd yw prif gymeriad y nofel hon,” medd Robat Gruffudd am Gobaith Mawr y Ganrif, sydd newydd ei chyhoeddi gan Y Lolfa. Mae ’na olygfeydd wedi eu lleoli ym Mhontcanna, Rhiwbeina, clwb y Cardiff & City, bwyty Eidalaidd yn y Bae, a Chanolfan y Mileniwm, ac mae’r prif gymeriadau’n cynnwys datblygwr tai, cyfreithiwr llwyddiannus, a Menna Beynon, pennaeth Corff yr Iaith Gymraeg. Ond caiff eu bywyd esmwyth ei styrbio pan gaiff Menna ei bygwth gan gyn gariad iddi, Trystan, o ddyddiau coleg Aberystwyth.

“Mae hyn yn rhoi’r cyfle i fi symud y stori i waelod Cwm Tawe, sy’n cynrychioli Cymru wahanol iawn i un bras Caerdydd ac i ofyn: oes ’na ddwy Gymru? Ac oes gan un Gymru ddyled i’r llall? Mae ’na bobl yng Nghaerdydd sydd ar gyflogau bendigedig ond fe grëwyd y swyddi yma – yn y Sianel, yn y Senedd, ym maes yr iaith – gan aberth cenhedlaeth arall a gafodd eu carcharu a’u dirwyo, ac a roddodd eu bywyd ar blât, hyd yn oed, dros yr iaith Gymraeg.

Tra bod y cwestiwn yma’n llechu y tu ôl i’r nofel, rwy’n trio osgoi pregethu! Fy nod oedd dilyn cyngor i sgrifennu ‘nofel traeth’ sy’n hwyl i’w darllen. Er yn cynnwys elfennau o ddychan, rwy’n gobeithio bydd pobl yn ei mwynhau hi fel nofel gyffredin. Yn wir, fel mae’r nofel yn mynd yn ei blaen, rwy’n dod i hoffi’r Cymry llwyddiannus lawn cymaint â Trystan, y protestiwr iaith blin a dialgar sy’n ymddangos mor sydyn o orffennol Menna.”

Gobaith Mawr y Ganrif yw pumed nofel Robat Gruffudd, sylfaenydd Y Lolfa a’r cylchgrawn Lol, gyda Penri Jones. Enillodd Wobr Goffa Daniel Owen ddwywaith am ei nofelau Y Llosgi (1986) ac Afallon (2012) ac mae hefyd wedi cyhoeddi Lolian (2016), dyddiadur hanner canrif, ac A Gymri di Gymru (2009), cyfrol o farddoniaeth.

Caiff Gobaith Mawr y Ganrif ei lansio’n swyddogol ym mwyty Ciao Ciao, Aberystwyth am 6 o’r gloch nos Iau, Ebrill 4ydd gydag adloniant gan Fand Bach Geraint Lovgreen. Cysylltwch â gwenllian@ylolfa.com os am fynychu’r noson. 

Mae Gobaith Mawr y Ganrif gan Robat Gruffudd ar gael nawr (£9.99, Y Lolfa).