Awdur o Aberystwyth yn rhan o Her yr Hydref

Ymunwch â Her yr Hydref!

Mererid
gan Mererid
AlunDaviesY Lolfa

trwy garedigrwydd y Lolfa

Mae Alun Davies, yr awdur o Benparcau, ymysg yr awduron mewn cyfres o lyfrau byr i annog pobl i ail-ddechrau darllen.

Yn ei lyfr newydd, Tywyllwch y Fflamau ar gael am £1 yn eich siop lyfrau leol fel rhan o raglen Stori Sydyn.

Nofel drosedd llawn hiwmor tywyll yw hi yn adrodd unig achos roedd Ditectif Bedwyr Campell wedi methu datrys.  Ond nawr mae ganddo gyfle i fynd ar drywydd y llofrudd unwaith eto, a cheisio dod o hyd I’r gwir am yr hyn ddigwyddodd ddeg mlynedd ynghynt.   

Mae Alun hefyd wedi cyhoeddi nofel i blant ym mis Awst, Manawydan Jones: Y Twrch Trwyth, sydd yn ddilyniant i Manawydan Jones: Y Pair Dadeni, llyfrau sydd hefyd ar gael fel e-lyfrau.

Beth yw Her yr Hydref?

Mae Her yr Hydref yn ymgyrch Cyngor Llyfrau Cymru i’ch annog chi i ddarllen un llyfr o gyfres Stori Sydyn bob wythnos yn ystod mis Hydref. Mae’r gyfres arbennig hon o lyfrau byrion gan awduron arbennig yn cynnig y cyfle perffaith i ymgolli mewn llyfr – hyd yn oed os mai dim ond ychydig funudau’r dydd sydd gennych.

Mae bob math o lyfrau ar gael yn y gyfres, o ffuglen i lyfrau ffeithiol, gan awduron fel Llio Maddocks, Alun Davies, Lowri Cooke a Dylan Ebenezer.

£1 yn unig yw’r llyfrau (bargen), ac maent tua 100 tudalen o hyd.  Llyfrau perffaith i’w darllen ar daith trên i’r gwaith, amser cinio, yn y siop drin gwallt neu dros baned.

Dyma ambell gyfrol arall yn y gyfres, ar gael nawr o’ch siop lyfrau leol.

Deffro’r Ddraig – Rygbi Cymru 1998-2024 – Seimon Williams (Y Lolfa)

Llyfr am rygbi Cymru yn yr oes broffesiynol sy’n edrych ar y gemau mawr, y prif gymeriadau a rhai o’r prif straeon sydd wedi lliwio’r gamp dros y chwarter canrif ddiwethaf. Daw’r stori i ben drwy edrych ar y garfan ifanc a thaith yr haf i Awstralia yn 2024. Yr un awdur oedd yn gyfrifol am lyfr diweddar, Welsh Rugby: What went Wrong?

Aduniad – Elidir Jones (Y Lolfa)

Ar ôl blynyddoedd ar wahân, mae pedwar hen ffrind coleg yn dod ynghyd ar lwybrau unig Cwm Darran er mwyn cerdded, yfed a hel atgofion… ond mae rhywun – neu rywbeth – yno gyda nhw, yn llechu yn y niwl.  Dros un noson ac un bore dychrynllyd, bydd cyfrinachau’n cael ei datgelu, ffrindiau’n troi’n elynion, a hunllefau yn dod yn fyw.

Gwledd – Lowri Cooke (Y Lolfa)

Dyma straeon rhai o arwyr byd bwyd a diod Cymru heddiw.  Dewch i gael eich ysbrydoli gan fusnesau sydd wedi ennyn parch ledled Cymru a thu hwnt, ac sydd wedi cipio gwobrau cenedlaethol.  Mae gwledd yn eich disgwyl, wrth i chi ddysgu am yr emosiwn, y gwaith caled a’r dyfalbarhad sydd wedi dod a llwyddiant I’r cynhyrchwyr arloesol, angerddol ac arbennig yma.

Un Noson – Llio Elain Maddocks (Y Lolfa)

Pan ddaeth Jacob adre o Ffrainc i briodas ei ffrind, doedd o ddim wedi dychmygu cwrdd â merch fel Cadi. Mae eu perthynas yn dechrau’n dda ond yn y raddol bach mae amodau’r cytundeb rhyngddyn nhw’n cael eu torri.  Nofel gynnes, lawn hiwmor.

Dau Frawd, Dwy Gêm: Stori’r Cabangos – Dylan Ebenezer (Y Lolfa)

Dyma stori dau frawd o Gaerdydd sydd yn rhagori mewn dwy gamp.  Cawn hanes eu plentyndod a’u gyrfa hyd yn hyn yng ngeiriau Ben a Theo, a’u rhieni Paulo ac Alysia, gan weld sut mae ei magwraeth mewn teulu Cymraeg, hil gymysg wedi dylanwadu arnyn nhw.  Cofnod gonest am deulu annwyl a chlos, gyda chwaraeon yn ganolog i’w bywyd.

Beth am i chi ymgymryd a’r her?

Dweud eich dweud