Nid fi yw hwn
Er mwyn gadael sylw, mae angen mewngofnodi neu ymuno â’r safle.
Mae Nicola Griffiths o Benrhyn-coch yn bwriadu agor siop newydd i werthu lampau a ‘lampshades’ yn Stryd y Porth Bach, Aberystwyth ddechrau mis Tachwedd.
Fe fu gan Nicola stondin yn yr hen Swyddfa Bost yn y Stryd Fawr fel rhan o gynllun Antur Cymru pryd yr enillodd wobr am Fusnes Manwerthu Newydd. Bydd y cam hwn yn gyfle i ehangu busnes sy’n mynd o nerth i nerth.