Ysgol Llwyn yr Eos

Diolch

gan Catrin Pugh-Jones

Wrth fwrw mewn i flwyddyn academaidd newydd hoffai staff a disgyblion yr ysgol ddiolch yn fawr iawn i’r aelodau staff sydd wedi gadael prysurdeb y dosbarth i fwynhau bywyd mwy hamddenol gydag ambell lie-in canol wythnos.

Jane Jones, Tracey Northover a Jane Thorogood. Tair ledi sydd wedi rhoi o’u gorau i blant yr ysgol trwy gydol eu cyfnod yn Llwyn yr Eos.

Dymunwn iechyd a hapusrwydd iddynt a diolch yn fawr iawn i chi am bopeth.