Taith feic i godi ymwybyddiaeth am hunanladdiad

Codi dros £1,000 er cof am Jeff, Dan, Jack a Gron

Mererid
gan Mererid
395187252_10161149187850516

Clwb Beicio Aberystwyth

396537671_10161153208965516

Andy yr ocsiwniar

396713841_10161153208950516

Y beicwyr yn cychwyn

396898919_10161153209115516

Y beicwyr ar eu taith

396880657_10161153209195516

Ymlacio yn y Llew Du

396711762_10161153209025516

Shelley ac Andy

Dydd Sul, 29ain o Hydref 2023, tra roedd rhai ohonom yn mwynhau awr ychwanegol yn y gwely, ymunodd bron i gan o feicwyr ar daith beic arbennig iawn.

Mae’n arferiad gan Glwb Beicio Ystwyth i fynd ar daith fisol sydd yn gorffen mewn caffi, ond roedd y daith yma yn arbennig i gofio am rai o’r aelodau a gollwyd ac er budd elusen Papyrus (atal hunanladdiad mewn pobl ifanc).

Mae’r Clwb wedi cael taith er cof am Daniel Davies yn barod, ond roedd colli Jeff Saycell ym mis Ionawr eleni yn golled bellach – gyda Jeff yn weithgar iawn gyda Gŵyl Feicio Aberystwyth. Roeddent hefyd yn cofio Gron Evans a Jack Owen Woolley, a fu farw ym mis Gorffennaf 2023 yn 31 mlwydd oed.

Trefnodd Shelley Childs fod y llechen yn cael ei darparu i’r holl feicwyr oedd yn cymryd rhan yn y daith oedd yn gadael Canolfan Plascrug am 9 y bore ac yn gorffen yn y Llew Du, Aberystwyth.

Diolch i gyfraniadau hael – llwyddwyd i godi dros £1,000 tuag at elusen Papyrus (gyda sgiliau Ieuan Andrew Davies), ond yr un mor bwysig, codi ymwybyddiaeth am y ffynonellau sydd ar gael i rai sydd yn meddwl am hunanladdiad.

Diolchwyd i’r Llew Du am eu croeso a’r lluniaeth, yn ogystal ag i’r holl feicwyr a fu’n cymryd rhan a’r clybiau cyfagos am gefnogi.