Safiad Tawel dros Heddwch yn Wcrain

Galw am heddwch

gan Sue jones davies

Daeth grŵp o ddynion a merched Aberystwyth a’r ardal i sefyll y tu allan i Siop  y Pethe heddiw i gefnogi Wythnos o Weithredu Byd Eang dros Heddwch yn Wcrain (30 Medi – 8 Hydref)

Y nod cyffredin yw galw am gadoediad a thrafodaethau heddwch er mwyn dod â’r rhyfel yn  Wcrain i ben.