Diolch i Gyngor Tref Aberystywth am drefnu’r digwyddiad. Gobeithio y daw yn nodwedd barhaol yn nyddiadur y ddref.
Bu ymateb gwych i wahoddiad Cyngor Tref Aberystwyth i ddathlu diwrnod y cariadon yng Nghymru. Daeth pobl â baneri, gwisgoedd a ffrindiau i ddathlu cariad o bob math at bobl a’r byd. Ymgasglodd torf sylweddol ger Neuadd y Farchnad heddiw, dydd Sadwrn 21.01.23; yna yn brydlon am ddau o’r gloch, cychwynnodd parêd Santes Dwynwen cyntaf Aberystwyth i lawr y brif stryd i rythmau cadarn a brwdfrydig band Samba Agogo.
Tynnodd y parêd gryn sylw gyda thorf o wylwyr yn awyddus i ganfod y rheswm am y dathliad. Rhoddodd hyn gyfle gwych i’r stiwardiaid esbonio a rhannu gwybodaeth am Santes Dwynwen, diwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg – hyn yn gydnaws â bwriad y Cyngor Tref. Roedd y gweithgaredd yn ran o gyfres o ddigwyddiadau gan y cyngor i rannu hanes a diwylliant Cymreig ac i ddenu pobl i Aberystwyth.
Cyrhaeddodd y parêd hynod lwyddiannus ben ei daith y tu allan i Amgueddfa Ceredigion. Yn yr amgueddfa ymunodd nifer sylweddol mewn twmpath dawns i gyfeiliant band Parti Dawnsio Gwerin Aberystwyth ac i gyfarwyddiadau clir y galwr. Hyfryd oedd gweld y llawr yn llawn dawnswyr yn mwynhau eu hunain ac yn dathlu dydd Santes Dwynwen. Un o uchafbwyntiau’r prynhawn oedd cyfraniad arbennig y plant yn y grŵp clocsio lleol, Seithennyn Bach. Bu caffi’r amgueddfa yn brysur yn gwerthu te’r dathlu a hyfryd oedd cael cwmni Mari Lovegreen yn hybu ei llyfr ‘Cariad’ yn siop yr amgueddfa.