Menter i ddod a swyddi i ardal ddifreintiedig oedd Coaltown Coffee, ac fe’u sefydlwyd yn Rhydaman yn 2013 wedi i’r pwll glo olaf gau. Deng mlynedd yn ddiweddarach, maent yn cyflogi 50 o staff, yn eu safle yn Rhydaman ac wedi ehangu i Bontarddulais. Eu bwriad yw canolbwyntio ar ardaloedd diwydiannol sydd angen help i adfywio.
Eu harbenigedd yw gweithio gyda ffermwyr yn Affrica a De’r Amerig, i gynhyrchu amrywiaeth o goffi ar gyfer pob blas.
Steff, sydd yn wreiddiol o Aberaeron, oedd yn esbonio’r broses i griw a ymunodd yn Baravin ar nos Fercher, 25ain o Hydref 2023 i flasu coffi.
Cwmni masnach deg yw Coaltown, ac maent yn cynhyrchu coffee liqueur sydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer coctels.
Diolch Steff am ddod i ddangos y broses i ni, a phob hwyl gyda’r fenter.