Gêm gyntaf agos ar gae Llety Gwyn

Padarn a Llanilar yn wynebu gêm gyntaf y tymor

Mererid
gan Mererid
IMG_20230909_153258774
IMG_20230909_153426502
IMG_20230909_153431764
IMG_20230909_153422727
IMG_20230909_153727871

2 gôl i Lanilar a dim gôl i dîm Padarn oedd y sgôr ar gae Llety Gwyn ddydd Sadwrn, 9fed o Fedi 2023.

Mae’r ddau dîm yn chwarae yng nghynghrair Cambrian Tyres.

I dîm Llanilar, Morgan Ashton sgoriodd y gôl gyntaf o fewn 30 munud i’r hanner cyntaf, gyda Sion Reece Pugh yn sgorio’r ail gôl ar ôl awr o chwarae.

Gyda Chlwb Pêl-droed Padarn dan reolaeth Pete Bentham am y tro cyntaf, ymladdodd y tîm i sicrhau na fyddai’r sgôr ddim gwaeth, gyda’r tywydd yn boeth! Dal ati Pete.

Wythnos nesaf (16-9-2023), bydd Clwb Pêl-droed Padarn yn chwarae ym Mhontrhydfendigaid ar Barc Pantyfedwen am 2.30 y prynhawn.

Yr wythnos ganlynol (23-9-2023), bydd gêm gwpan Emrys Morgan yn erbyn tîm Borth (yn Borth).

Diolch i deulu Jones fel arfer am gael defnyddio cae Llety Gwyn.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn chwarae pêl-droed i dîm Padarn, cysylltwch â ni drwy Facebook.