Ffynhonnau – y cyswllt gyda’n cyndeidiau

Diwrnod llawn dysgu am Ffynhonnau Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol

Mererid
gan Mererid
IMG_20230909_140542932_HDR

Eirlys, Mike a Bob y Cadeirydd

Yn y Llyfrgell Genedlaethol ar ddydd Sadwrn, 9fed o Fedi 2023, cynhaliwyd Cynhadledd unigryw ar hanes ffynhonnau Cymru. Cynhadledd ar y cyd rhwng Fforwm Hanes Cymru a Chyfeillion y Llyfrgell Genedlaethol oedd hon.

Ffurfiwyd Cymdeithas Ffynhonnau Cymru yn 1996. Roedd Eirlys Gruffudd Evans a’i diweddar ŵr Ken yn rhai o’r sylfaenwyr, ac felly addas iawn oedd cael Eirlys i areithio. Areithiodd Eirlys “Gwarchod y Trysor” ar gefndir y gwaith sylweddol mae’r gymdeithas wedi ei gyflawni dros y 27 ddiwethaf. Defnyddiodd arlunwaith ei gŵr i adlewyrchu sut y byddai’r ffynnon yn wreiddiol ac fel mae gwaith ymgyrchu a chodi arian wedi bod i ddiogelu’r ffynhonnau pwysig yma. Os nad oes statws cofrestredig ar y ffynnon, mae perygl

Mike Farnworth oedd yn darparu’r araith nesaf, ar bwysigrwydd straeon am y ffynhonnau, ac fel yr oedd ffydd yng ngallu’r ffynhonnau i wella anhwylder. Testun ei bwnc oedd “Paganiaeth o dan yr wyneb”

Yn aml, roedd ffynnon yn yr oes cyn-Geltaidd, ac yn bwysig o ran meddyginiaeth. Fel y datblygodd Cristnogaeth, addaswyd rhai o’r eiconau paganaidd i gyd-fynd a seintiau, ac yn aml, mae ffynnon sanctaidd wedi ei enwi ar ôl sant y plwyf. Mae eglwysi hefyd yn aml wedi cael eu hadeiladu yn agos, os nad ar yr un safle a’r eglwys, fel sydd wedi digwydd yn Ystrad Fflur. Mae ffynhonnau felly yn gyswllt di-dor gyda’n cyndeidiau.

Yn anffodus, nid oedd Howard Huws yn gallu mynychu oherwydd gwaeledd ond traddododd Eirlys ei araith ar ei ran. Roedd ei araith ynglŷn â thraddodiad ar draws Prydain ac Iwerddon o roi darnau o glytiau neu ddillad o amgylch y ffynnon, neu ddefnyddio dilledyn fel rhagolygon o’r dyfodol.

Diolch i Eirlys, Mike a Howard am baratoi darlithoedd, i Bob am gadeirio, i Heledd am gyfieithu ac i’r Llyfrgell Genedlaethol am leoliad addas a lluniaeth.

Cafwyd diwrnod hynod o ddiddorol, ac mae wedi codi’r awydd i ddysgu mwy o ffynhonnau Aberystwyth.

Ffynhonnau Aberystwyth

Ar wefan drylwyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru, mae manylion fesul ardal a fesul pwnc. Maent yn cyhoeddi cylchgrawn dwywaith y flwyddyn o’r enw Llygad y Ffynnon.

Yn Llygad y Ffynnon Rhagfyr 2015, cyhoeddwyd yr erthygl ganlynol ar sail y wybodaeth a ddefnyddiwyd gan David Samuel, prifathro cyntaf Ysgol Ardwyn, a wnaeth nodiadau ar gyfer erthyglau a ddyddiwyd Gorffennaf 27ain, 1892. Diolch i Jane Lloyd Francis. Abercregir ger Machynlleth, am yr ymchwil a chedwir y nodiadau fel roedden yn wreiddiol.

FFYNNON TWLC YR HWCH

Flynyddodd yn ôl …nid oedd rhwng adeilad y Coleg a’r castell yr un wal yn y byd – peth cymharol ddiweddar yw’r ffordd sy’n arwain heibio i’r coleg at y castell, ac yn ddiweddar, wrth wneud y ffordd yr adeiladwyd y mur- ‘y sea wall.’ Yr oedd yn y fan hon, rhwng y môr a’r Eglwys, gae bychan, yr hwn a elwid ‘Cae Judith. Hen housekeeper-ni-charge i’t tŷ a adweinid y pryd hwnnw ac am flynyddoedd wedyn, ac a adwaenir eto gan hen bobl y dref wrth yr enw ‘Castle House’, sef y darn canol  o’r Coleg a thŷ y Prifathraw. Ystyrid yr hen Judith yn ddoctores o gryn fri yn enwog fel meddyg. Mae Judith wedi marw bellach ers 60 mlynedd. Ymddengys fod Cae Judith yn terfynu ar ochr y môr mewn dibyn serth, ac yng nghesail y dibyn llochesai Ffynnon Twlc yr Hwch. Elent at y ffynnon o Pier Street, drwy King Street (neu College Street fel y myn rhai ei galw yn awr) ac wedi myned heibio i’r Castle House, yr oedd yno lwybr yn arwain i’r traeth ac at y ffynnon. Yn y fan hon rhwng Craig y Castell a Chraig y Wig yr oedd yno draeth bychan yr hwn a elwid yn gyffredim wrth yr enw ‘Glan Môr Ladis’ am y reswm mai yn y fan hon yr arferai merched drochi yn yr amser gynt. Ymolchent ac ymdrochent yn y fan hon yn y drefn fwyaf cyntefig, yn hanner noethion neu yn gwbl noethion. Yn y traeth hwn hefyd y mae Pwll Padarn yr hwn y gellir ei weled yn ein hamser ni pan y bydd y trai ymhell allan. Arferai yr hen bobl drochi yn aml, aml ynddo. Pan adeiladwyd Eglwys Mihangel Sant ( y drydedd o’r enw hwnnw) cauwud y llwybr a arweiniai efo’r wal i fyny , a gwnaethpwyd y ‘sea-wall’ presennol. Yr adeg honno dinistriwyd yr hen ffynnon hefyd. Yr oedd ynddi ddigon o ddwfr bob amser, digon o ddwfr a’r math ragora, yr hwn oedd yn hynod ddymunol oblegid ei oerni adfywiol ym misoedd tesog yr haf. Ond ar brydiau, a’i y ffynnon yn hollol ddi-fudd, yn enwedig yn amser y ‘spring tides’ mawrion, pan y byddai’r môr yn codi i’r lan yn uchel, a’r llanw yn ddigon cyflawn I ddod at y ffynnon a’i llenwi â heli. Tybir mai llysenw o ryw fath oedd yr enw roed ar y ffynnon.

FFYNNON GRAIG GOCH

Ffynnon rinweddol iawn oedd hon-arferai pobl y dref fynd at ei dyfroedd bob bore i olchi eu llygaid os bydd ryw wst arnynt. Yr oedd y ffynnon yng nghardd Graig Coch, wrth gefn y tŷ, rhyngddo a’r môr. Yr oedd tua 10 troedfedd mewn dyfnder. Deuai’r dŵr i’r ffynnon o graig yn bistyll neu raeadr bach tlws iawn. Nid oedd y wal sy’ nawr yn rhedeg o gylch yr ardd wedi ei hadeiladu y pryd hwnnw. O’r pistyll bach byddai y rhai oeddynt am yfed y dwfr yn arfer ei sugno i mewn trwy welltyn tenau.

FFYNNON GYMMYRCH

Yr oedd y ffynnon hon hanner ffordd rhwng Trefechan a Felin y Môr, ac yr wyf yn lled hyderu mai hon yw’r ffynnon sy’n awr i’w gweled ar ymyl y ffordd sydd rhwng Trefechan a’r felin. Nid wyf yn gwybod fod dim neullduol wedi digwydd yn dwyn perthynas â’r ffynnon hon. Nid wyf yn sicr fy mod wedi sillebu ei henw yn iawn ac nid oes gennyf y syniad lleiaf beth yw meddwl ac ystyr y gair.

FFYNNON YR ANCR

Nid wyf yn berffaith sicr fy mod yn sillebu’r gair hwn yn gywir. Yn gyffredin ysgrifennir ef fel gair Saesneg ‘anchor’ ond nid angor yw’r enw priodol ar y ffynnon ond ‘ancr’ neu meudwy- ‘hermit’s well’. Ceir hefyd yn ‘Pen anchor- ‘hermit’s peak’. Ymddengys fod gynt ddwy ‘Ffynnon yr Ancr’- yr oeddynt yn llochesi dan y geulan ar y ffordd yr eloch o ‘Ben yr Ancr’  yng nghyfeiriad y pier cerrig. Yr oedd y ddwy yn agos iawn lle y gosodir y lamp  i fyny gyferbyn â’r fynedfa i’r porthladd, i ddangos i’r llongau y modd i iawn gyfeirio eu cwrs pan yn gwneud eu ffordd i mewn drwy fynedfa gul ym mhen y bar. Mae’r ddwy ffynnon wedi eu cau i fyny ers 40 neu 50 mlynedd yn ôl. Cauwyd hwynt pan y cynlluniwyd y ffordd sydd yno i fyned yn ôl a blaen at y pier. Yn ymyl y fan lle’r oedd y ffynnon mae yno, fel y gwyddys, graig wedi ei thorri trwodd – êl y ffordd yn awr drwy fwlch yn y graig. Gwnaethpwyd hyn tua’r un adeg a phan y llanwyd y ffynhonnau. Gelwid y lle hwn yn ‘Pen Huwcyn’. Arferai’r hen forwyr ddweud am yr ‘Huwcyn ‘hwn, mae dyn ydoedd heb fod yn ei lawn synhwyrau, ac yn arfer mynychu fel gwallgofddyn ar ei ben ei hun i’r man unig neillduedig hwn. Ac yn y ffaith hon, yn y bywyd meudwyol yn ddiau y treuiliasai Huwcyn ei hoedl, y gwelaf esboniad ar y geiriau uchod,’Ffynnon yr Ancr’a ‘Phen yr Ancr’.

Beth am fynd i chwilio am leoliad y ffynhonnau yma?