Y Faner Werdd yn Hedfan yn Hafan y Waun

Mae’r elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus wedi cyhoeddi enillwyr Gwobr Y Faner Werdd eleni

Karen Rees Roberts
gan Karen Rees Roberts

Mae Hafan y Waun wedi ennill Gwobr Gymunedol y Faner Werdd mewn cydnabyddiaeth o’i hymderchion o ran yr amgylchedd, glendid, diogelwch a chyfranogiad y gymuned.

Mae 180 o fannau gwyrdd sydd wedi eu rheoli’n gymunedol wedi cyrraedd y safon uchel sydd ei hangen i ennill Baner Werdd Gymunedol.

Bellach yn ei thrydydd degawd, mae’r Faner Werdd yn cydnabod parciau a mannau gwyrdd sydd wedi eu rheoli’n dda, mewn 20 o wledydd ar draws y byd.

Yng Nghymru, mae’r cynllun gwobrwyo yn cael ei redeg gan Cadwch Gymru’n Daclus. Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd Y Faner Werdd i Cadwch Gymru’n Daclus:

“Mae mynediad am ddim i ardaloedd gwyrdd o safon uchel a diogel mor bwysig ag erioed. Mae ein safleoedd penigamp yn chwarae rôl allweddol yn iechyd meddwl a chorfforol pobl, drwy gynnig hafan i gymunedau ddod at ei gilydd i ymlacio a mwynhau natur’.

‘Mae’r newyddion bod y nifer uchaf erioed o fannau gwyrdd a reolir yn gymunedol yng Nghymru wedi ennill gwobr Y Faner Werdd yn dangos gwaith caled cannoedd o staff a gwirfoddolwyr. Rydym wrth ein bodd ein bod yn gallu dathlu eu llwyddiant ar lefel fyd-eang.’

Mae rhestr o’r enillwyr ar gael ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus

www.keepwalestidy.cymru