Eisteddfod Papur Bro Y DDOLEN

Ewch ati i gystadlu!

Y Ddolen (papur bro)
gan Y Ddolen (papur bro)

Mae’n benwythnos gŵyl y banc – felly beth am fynd ati i gyfansoddi!

Cofiwch am Eisteddfod papur bro Y DDOLEN 2024. Mae’r dyddiad cau yn prysur agosáu ar 31 Ionawr 2024 ac edrychwn ymlaen yn fawr i dderbyn eich cynnyrch llenyddol.

Dyma’r testunau…

  1. Cerdd Ysgafn: Dathlu
  2. Erthygl addas i bapur bro
  3. Limrig: Tro Trwstan
  4. Brawddeg – Morgan
  5. Capsiwn i Lun (wele’r llun)
  6. Ffotograffiaeth – Y Gaeaf

Plant a Phobl Ifanc

4 categori oedran: Derbyn, Bl. 1 a Bl. 2; Bl. 3 a 4; Bl. 5 a 6; Bl. 7,8 a 9

  1.     Celf (llun 2D): Y Tymhorau
  2.     Ysgrifennu Creadigol: Teulu ni

Meinir a Pete Ebbsworth, Llanwnen fydd yn beirniadu’r gwaith llenyddol a Ruth Jên, Talybont fydd yn beirniadu’r gwaith celf. Diolch yn fawr iddynt am gytuno i roi o’u hamser.

Cynigir cadair gyfforddus ddefnyddiol unwaith eto eleni i’r gerdd ysgafn fuddugol ac mae gwobr gyntaf o £5 ym mhob cystadleuaeth arall.

Danfonwch eich deunydd drwy ebost i y.ddolen@gmail.com neu drwy’r post i Enfys Evans, Hafan, Llanddeiniol, Llanrhystud, Ceredigion, SY23 5DT. Cofiwch gynnwys ffugenw gyda’r gwaith yn ogystal â’ch enw a’r manylion cysylltu.