Cyn-chwaraewyr rygbi Aberystwyth yn beicio i Gaeredin

Criw Aberystwyth wedi codi dros £25,000 i elusen Doddie

Mererid
gan Mererid

Dyma’r deuddeg dewr fu ar y beic o ddydd Iau i ddydd Sadwrn ar daith o Gaerdydd i Gaeredin. Tipyn o gamp.

Fe wnaethant feicio llwybr o 560 o filltiroedd i godi arian at Gymdeithas MND, elusen sy’n cefnogi’r rhai y mae’r afiechyd motor niwron wedi cael effaith ddinistriol arnynt – Doddie Weir, Rob Burrow a llawer o rai eraill.

Ymysg y rhai oedd yn cymryd rhan yr oedd Dylan Llywelyn, Glyn Williams, James Tudor Raw, Emlyn Jones, Brian Isaac, Gwion James, Dafydd Evans, Aled George Lewis, Dan Downes, Iestyn Tudur-Jones, Gareth Jones a Cefin Evans.

Gallwch gyfrannu i’r ymgyrch yma. Diolch i’r holl noddwyr, gan gynnwys Continental Tyres, am eu nawdd a’i cefnogaeth.

Da iawn chi, bois. Gobeithio eich bod wedi dadflino erbyn hyn.