Canu er mwyn sicrhau dŵr glân i bobl ledled y byd

Digwyddiad ‘Sing for Water’, dydd Sadwrn, 7 Hydref yn Aberystwyth

Côr Gobaith
gan Côr Gobaith
Rhai-or-criw

Rhai o’r criw fydd yn canu yn y digwyddiad gyda Susie Ennals yng nghanol y rhes flaen

Mae un o bob deg o bobl y byd heb gyflenwad dŵr o fewn cyrraedd i’w cartref, ac nid oes gan un o bob pump o bobl doiled safonol i’w defnydd eu hunain. Ers 21 o flynyddoedd, mae corau yn y Deyrnas Gyfunol a thu hwnt wedi bod yn dod at ei gilydd i geisio newid hyn trwy gynnal digwyddiadau cymunedol Sing for Water. Syniad y canwr a’r gyfansoddwraig Helen Chadwick oedd Sing for Water a’i nod oedd defnyddio canu i godi arian ar gyfer WaterAid, elusen sy’n darparu dŵr glân a sicrhau hylendid a glanweithdra yng nghymunedau tlotaf y byd.

Eleni, bydd digwyddiad Sing for Water yn cael ei gynnal yn Aberystwyth o dan arweinyddiaeth Susie Ennals.

Mae rhyw 100 o bobl wedi cofrestru i gymryd rhan yn y digwyddiad – rhai fel aelod o gôr a rhai fel unigolion – ac mae pawb wedi bod wrthi ers wythnosau yn dysgu’r caneuon. Mae’r corau lleol yn cynnwys Lleisiau’r Leri (Leri Voices), Côr Gobaith a Heartsong, ond mae yna gorau yn dod o Swydd Henffordd a Swydd Amwythig hefyd. Bydd pawb yn uno i ganu pedair cân (pob un â chysylltiad â dŵr mewn rhyw ffordd) a bydd rhai o’r corau hefyd yn perfformio’n unigol.

Mae Susie Ennals wedi bod yn arwain corau a chynnal gweithdai canu ers sawl blwyddyn bellach. Dywedodd: “Ar hyn o bryd, mae miliynau o bobl ar draws y byd yn byw heb fynediad at ddŵr glân – rhywbeth rydyn ni i gyd yn ei gymryd yn ganiataol. Yng Nghymru, yn arbennig, rydyn ni wedi’n bendithio â digonedd o ddŵr, yn llenwi’n cronfeydd dŵr, ein llynnoedd a’n hafonydd yn ogystal â’n rhaeadrau godidog. Ond mae pawb angen mynediad at ddŵr glân, ym mhobman; mae’n hawl dynol sylfaenol. Rydym eisoes wedi codi dros £1500 ond, trwy godi’n lleisiau mewn cân, rwy’n gobeithio y gallwn hefyd godi mwy fyth o arian tuag at y gwaith gwych sy’n cael ei wneud gan WaterAid.”

Cynhelir y digwyddiad y tu allan i’r Bandstand ar y prom, ddydd Sadwrn, 7 Hydref; bydd dau berfformiad – un am 11.00 ac un arall am 2.00.

Mae croeso cynnes i bawb i ddod i wrando a mwynhau’r canu. Bydd casgliad ar gyfer Sing for Water International ar y diwrnod ond gallwch hefyd gyfrannu ar-lein – nodwch Aberystwyth wrth wneud hynny fel bod yr arian yn cael ei ychwanegu at gyfanswm y criw lleol. Mae rhodd o £15 yn sicrhau y bydd un person yn cael mynediad at ddŵr glân am weddill ei fywyd.

Ychwanegodd Susie: “Er na allwn anfon dŵr at y bobl sydd angen y cyfleusterau elfennol hyn, fe allwn ddod ynghyd i ganu a chodi arian i’w helpu.”

1 sylw

Côr Gobaith
Côr Gobaith

NODER: 14 HYDREF YW DYDDIAD Y DIGWYDDIAD

Mae’r sylwadau wedi cau.