Un o’r Miliwn

I Siaradwyr newydd a Dysgwyr Cymraeg

gan Medi James
Ger cerrig yr orsedd yn Aberteifi
Adeilad y Mwldan a ffurf y wal, cerrig a llechi
Hen frics Aberteifi sydd wedi eu gosod yn y waliau
Y ffosiliau sydd yn y stepiau wrth fynd lan i'r Guildhall

Taith Gerdded Aberteifi

Aethon ni i Aberteifi dydd Sadwrn Mehefin 26, 2022

‘Dyn ni wedi cwrdd â Siân, Dyfed, Medi ac Ann-Marie yn y maes parcio ar bwys yr Afon Teifi. Siân oedd yr arweinydd. Dywedodd wrthon ni mai porthladd Aberteifi oedd y pwysicaf yng Nghymru yn y ddeunawfed ganrif. Roedd y masnachu’n digwydd trwy ddefnyddio’r afon Teifi i gario llechi o Gymru dramor a chariwyd pethau eraill fel gwin o Ffrainc i Gymru. Dywedodd wrthon ni fod llong, Yr Albion, o Aberteifi wedi teithio i New Brunswick ac wedyn i Efrog Newydd yn cario pobl oedd yn credu basai bywyd newydd a gwell iddyn nhw yno. Man gwyn man draw

Cerddon ni wedyn i weld Meini’r Orsedd ym mharc Pwll y Rhwydi ( y Netpool) ble maen nhw wedi eu hail -osod ar ol 1976. Siaradodd Siân o’r Maen Llog.

Yn 2000 cafodd Coedwig y  Mileniwm ei phlannu a gerddon ni drwyddo.  Ar ôl dim ond dwy flynedd ar hugain, mae’n goedwig lawn nawr. Mae hi’n ymestyn o Bwll y Rhwydi ar lan yr afon Mwldan. Mae hi’n goedwig hyfryd ac yn agos i’r dre.

‘Dyn ni wedi edrych ar Theatr Mwldan. Roedd e’n arfer bod yn lladd-dy ac roedd yr afon yn ofnadwy gyda gwaed yr anifeiliaid yn llifo ynddi. Mae’n adeilad arbennig. Edrychon ni ar sut mae’r llechi a’r brics lleol wedi eu gosod i wneud patrwm arbennig sydd i’w weld mewn adeiladau eraill yn y dre ac yn Abaty Llandudoch sydd lawr yr afon. Nawr adloniant sydd ar gael yn y theatr. Dangosodd Dyfed y ffosiliau sydd yn y cerrig ar stepiau’r Guildhall.

Welon ni’r castell. Cafodd ei adeiladu yn wreiddiol yn yr unfed ganrif ar ddeg a’i ail-adeiladu yn 1244. Yn 1197 cafwyd yr Eisteddfod gyntaf yno. Roedd gwraig yn byw yn y castell tan 1996 ac roedd e mewn cyflwr gwael iawn ond prynodd Cyngor Sir Ceredigion e a dechreuodd yr atgyweirio yn 2003.

Wedyn, aethon ni mewn i gaffi yn y dre am baned. Roedd yn brynhawn diddorol iawn ac ‘dyn ni wedi dysgu llawer am Aberteifi. Diolch o galon i Siân a Medi.

gan Suzanne