Gwaith oes yn cael ei gyhoeddi

Mark Drakeford yn ymweld â’r Llyfrgell Genedlaethol i lansio campwaith tair cyfrol Daniel Huws

gan Andrew Hawke
DanielHuws_GruffyddAntur

Daniel Huws a Gruffydd Antur yn derbyn copi o’r Repertory gan Marl Drakeford.

DanielHuws

Daniel Huws yn siarad yn y lansiad.

Ddydd Llun, cyhoeddwyd ffrwyth llafur oes Daniel Huws, Penrhyn-coch, A Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes, c. 800–c. 1800, gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. I ddathlu’r achlysur nodedig yma ac i nodi pen blwydd yr awdur yn 90 oed cynhelir cynhadledd ryngwladol yn y Llyfrgell yr wythnos hon ar y cyd â Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru.

Agorwyd y gynhadledd gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford. Canmolodd y gwaith gan ddweud, “Dyma waith enfawr o ymchwil ysgolheigaidd a ddylai gael ei drysori gan genedl y Cymry. Cynhwysir canrifoedd o ddiwylliant a dysg Cymru yn y cyfrolau hyn. Hoffwn longyfarch Dr Huws am ei waith, nid yn unig ar y prosiect hwn, ond drwy gydol ei yrfa hir a nodedig.”

Hwn yw’r cyhoeddiad pwysicaf ar lawysgrifau Cymraeg a Chymreig ers canrif a mwy, a bydd yn chwyldroi’r astudiaeth o hanes ein diwylliant a’n llên. Mae’r tair cyfrol yn cynnwys astudiaeth fanwl o lawysgrifau a ddiogelir yn ein prif lyfrgelloedd, megis y Llyfrgell Genedlaethol, Prifysgol Bangor, a chanolfannau megis y Llyfrgell Brydeinig a Llyfrgell Bodley, Rhydychen.

Bydd hefyd yn rhoi sylw i lawysgrifau sydd wedi eu diogelu mewn mannau mwy diarffordd, megis prifysgolion Harvard a Yale, coleg Stonyhurst, ac archifdy swydd Northampton. Ar sail y llawysgrifau hyn, dadansoddir gwaith a chymhellion yr unigolion a fu’n eu llunio – o’r Oesoedd Canol hyd at y Chwyldro Diwydiannol – gan ein cyflwyno i gymeriadau enwog yn hanes y genedl, i eraill a lwyr anghofiwyd, ac i ambell gymeriad brith sy’n haeddu rhagor o sylw.

Roedd Dr Daniel Huws yn Geidwad Adran Llawysgrifau a Chofysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru o 1981 hyd 1992 ar ôl ymuno â’r staff ym 1961.