Ar Gered yng Nghoed Maenarthur

Hanes a lluniau taith mis Hydref Ar Gered

Steff Rees (Cered)
gan Steff Rees (Cered)

Pont-rhyd-y-groes a Choed Maenarthur oedd y lleoliad ar gyfer taith mis Hydref Ar Gered, ac roedd y daith yn un hyfryd arall gyda 21 ohonom yn dod ynghyd i fynd ar antur hydrefol ac i gymdeithasu yn Gymraeg. Felly, dyma chydig o hanes y daith 6km hon a gynhaliwyd ddydd Sadwrn, 22 Hydref.

Y man cyfarfod y mis hwn oedd caffi amheuthun y Sied De yng nghanol pentref Pont-rhyd-y-groes. Os nad ydych wedi bod yno eto, dyma gaffi a siop hanfodion hunanwasanaeth sydd wedi ei leoli gyferbyn â garej Moduron Hafod. Os ewch chi yno ar ôl darllen yr erthygl hon, cofiwch eich arian mân er mwyn talu am eich coffi ffilter ffres, cawl ffacbys neu hufen iâ!

Wedi gadael y caffi, fe aethom i gael golwg ar olwyn ddŵr y pentref er mwyn cyflwyno’r daith ac i roi ychydig o gyd-destun hanesyddol y pentref cysglyd presennol fel un oedd yn ferw gwyllt o ddiwydiant a thlodi yn oes y gweithfeydd mwyn. Diddorol oedd darllen y bwrdd gwybodaeth oedd yn rhoi hanes trist y gweithwyr oedd, yn amlach na pheidio, yn byw bywydau caled a byr.

Nesaf ar y daith oedd Pont y Mwynwyr, sef y bont uchel oedd yn croesi Ceunant Ystwyth o’r pentref i gyfeiriad Coed Maenarthur. Roedd gweld y dail fel môr o liwiau euraid yn disgleirio yng ngolau’r haul a’r afon yn llifo’n rymus oddi tanom yn rhoi gwefr i ni i gyd, a chafwyd sawl llun cyn symud ymlaen.

Roedd rhan nesaf y daith yn un oedd yn rhoi ychydig o her gorfforol i ni wrth i’r llwybr i ben uchaf y goedwig brofi ychydig yn serth ar brydiau. Serch hyn, roedd yr ymdrech yn werth chweil wrth i ni allu mwynhau golygfeydd bendigedig ar draws y dyffryn i gyfeiriad Ysbyty Ystwyth a Chastell Grogwynion, yn ogystal â dod ar draws Rhaeadr Grogwynion.

Wrth i ni fynd tuag i lawr unwaith eto, daethom ar draws ystod eang o blanhigion diddorol y goedwig, gan gynnwys madarch, mwsogau a chen.  Gwych oedd gallu cael gwers natur arall gan rai o’n harbenigwyr brwdfrydig – un o uchafbwyntiau unrhyw daith Ar Gered.

Rhan olaf y daith oedd dilyn yr afon yn ôl at Bont y Mwynwyr. Roedd y rhan hon yn cynnwys llawer o risiau, oedd yn rhoi un her gorfforol arall i’r criw. Ond roedd gweld lliw’r afon, y creigiau geirwon a holl liwiau tymor yr hydref yn arbennig. Erbyn hyn, roedd yr holl gerdded wedi hala chwant am ginio, felly dilynwyd ein holion traed yn ôl dros Bont y Mwynwyr ac agor ein bocsys cinio yn y Sied De.

Mi fydd manylion taith mis Tachwedd yn cael eu datgelu yn fuan. Felly, os hoffech ymuno â ni, e-bostiwch steffan.rees@ceredigion.gov.uk.

Lluniau: Sarah Purdon, Peter Evans a Steff Rees