Eira Mawr Ionawr 1982: 40 mlynedd yn ôl

Penrhyn-coch yn yr Eira Mawr

William Howells
gan William Howells

Penrhyn canol yn yr eira

Dyma ychydig o luniau o’r Eira Mawr ym Mhenrhyn-coch ar y penwythnos hwn ym 1982. Oes gennych chi luniau tebyg o bentrefi eraill y cylch?

Neu unrhyw atgofion am y Dydd Iau hwnnw? Sut daethoch chi adref o’r gwaith? Cerdded (fel fi, dros y cloddie o’r dre) neu aros mewn gwesty yn Aberystwyth?

Bysys Mid Wales Motors yn sownd yn y garej
Ger Plas Gwyn (yr hen Gloster Hall) 1
Ger Plas Gwyn (yr hen Gloster Hall) 2
Cerbydau yn sownd ar y groesffordd
Alwyn, Meleri, a Lowri Jones a rhai o staff Gogerddan
Uwchben Brynhyfryd
Yr eira yn cyrraedd top y bont ar y ffordd i stad Maesyrefail
Howard Evans a’i JCB wrthi’n clirio’r ffordd i stad Maesyrefail
Pibonwy ar y ffenestri