Cyllid Loteri i ddysgu mwy am fryngaer Pendinas

Prosiect cymunedol yn derbyn arian loteri ac arian gan CADW

Mererid
gan Mererid

Newyddion da i Benparcau a Gogledd Ceredigion.

Mae Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed mewn partneriaeth â Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru wedi sicrhau grant gwerth £143,243 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ogystal â chyllid ychwanegol gan Cadw ar gyfer prosiect cymunedol dwy flynedd.

Bydd y prosiect yn gweithio gydag aelodau o Fforwm Cymunedol Penparcau a grwpiau cymunedol eraill. Mae’r prosiect dwy flynedd yn cynnwys arolwg geoffisegol a gwaith cloddio a fydd yn taflu goleuni ar y modd yr oedd ein cyndeidiau’n defnyddio’r safle.

Er i’r safle gael ei gloddio yn y 1930au, mae rhyw ddirgelwch yn perthyn o hyd i’r fryngaer drawiadol hon, fel cymaint o rai eraill ar draws bryniau Cymru. Ai er mwyn dangos grym y gymuned leol yn yr Oes Haearn y cafodd y fryngaer ei hadeiladu, neu a oedd iddi ddiben ymarferol fel lle i gadw gwartheg a grawn yn ddiogel? Beth yr oedd y bobl a oedd yn byw yma’n ei wneud ar y safle hwn ar y bryn?

Cafodd y syniad ar gyfer y prosiect ei gynnig gan aelodau o’r gymuned leol sydd wedi mynegi awydd i gael gwybod mwy am y fryngaer a’i gweld yn cael ei chynnal a’i chadw yn well. Mae tipyn o waith caled wedi mynd ar y cais gan Alan Chamberlain a aelodau Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed.

Cynlluniwyd amryw weithgareddau cymunedol fydd yn cynnwys gweithio gydag arbenigwyr lleol ar fywyd gwyllt er mwyn clirio rhedyn ac eithin a gwella’r safle ar y bryn ar gyfer y planhigion, yr adar, yr anifeiliaid di-asgwrn-cefn a’r pryfed prin sy’n byw ym Mhen Dinas.

Bydd gwneud ffilmiau, creu crochenwaith, prosiectau ysgolion, teithiau tywys a gweithgareddau adrodd straeon i gyd yn rhan o’r prosiect cyffrous hwn, a phenllanw’r cyfan fydd gŵyl ar benwythnos i ddangos canlyniadau’r holl weithgareddau hyn.

Bydd mwy o wybodaeth ar sut i wirfoddoli a chymryd rhan yn y prosiect yn fuan.

Yn y cyfamser, gallwch ddarllen mwy am Bendinas drwy’r erthygl yma

Prosiect CAER Connected ym mryngaer Pendinas

Mererid

Arian i brosiect cymunedol ym Mhenparcau