Carolwyr Stryd Fawr Aber

Pedair elusen leol yn elwa

gan Medi James
Y carolwyr blynyddol ar Stryd fawr Aber

Codi Arian i 4 elusen lleol

Mae croeso mawr i unrhyw un ddod atom i ganu carolau ac i godi pres i 4 elusen leol: Banc Bwyd y Jiwbili, Blood Bikes, Aberystwyth Night Shelter a Homestart Ceredigion. Yn barod wythnos yma ar ol awr o ganu pob dydd rydym wedi casglu £300.77. Diolch i haelioni chi bobl Ceredigion. Beth am ddod draw fory Dydd Iau neu ddydd Gwener am 12 o’r gloch?