Canolfan Hamdden Plascrug yn ehangu’r ddarpariaeth

Beth am ymweld a Chanolfan Hamdden Plascrug dros yr wythnosau nesaf?

Cyngor Sir Ceredigion
gan Cyngor Sir Ceredigion

Mae Canolfan Hamdden Plascrug wedi ail-agor ers sawl mis, a dros yr wythnosau nesaf, bydd mwy o ddarpariaeth ar gael.

Ystafell Chwarae Feddal

Ddydd Llun 16eg Mai 2022, bydd yr ystafell chwarae feddal yn ail-agor. Mae hyn yn cynnwys ardal synhwyraidd newydd. Mi fydd yr ystafell chwarae feddal ar agor rhwng yr amseroedd dilynol –

  • Dydd Llun i Ddydd Gwener 9yb-12yp, 1yp-3yp a 4yp-7yp,
  • Dydd Sadwrn 10yb-4yp (efallai fydd y pwll ar gau rhwng 11yb-12yp ar gyfer partïon),
  • Dydd Sul 10yb-2yp

Mi fydd y rhain yn slotiau awr yn dechrau ar yr awr trwy gydol yr amseroedd agor.

Nid oes rhaid archebu lle ond mae bwcio a thalu o flaen llaw yn argymell i sicrhau eich lle.

Dosbarthiadau troelli

  • Dydd Llun 7.15-8 y bore
  • Nos Lun 5.30-6.15 yr hwyr
  • Nos Mawrth 5.15-6 yr hwyr
  • Dydd Mercher 7.15-8 y bore
  • Nos Iau 5.15-6 yr hwyr
  • Dydd Gwener 7.15-8 y bore

Hyfforddiant Cylchol

I chi sydd eisiau rhywbeth gwahanol – beth am hyfforddiant cylchol ar nos Iau rhwng 6.15 – 7.15 yr hwyr

Pwll nofio

Cofiwch wrth gwrs fod y pwll hefyd ar agor gan gadw llygad ar wefan y Ganolfan Hamdden neu Facebook i gael y rhaglen wythnosol.

Rhaglen nofio Plascrug