Anrhydedd uchel i academydd o Dal-y-bont

Dr Bleddyn Huws yn derbyn gradd DLitt gan Brifysgol Bangor

Marian Beech Hughes
gan Marian Beech Hughes
Dr Bleddyn Huws

Dyfarnodd Prifysgol Bangor radd DLitt – y radd uchaf ym maes y celfyddydau – i Dr Bleddyn Owen Huws, Henllan, Tal-y-bont, am ei weithiau cyhoeddedig yn ymwneud â llenyddiaeth Gymraeg. Mae Dr Huws, a addysgwyd ym Mhrifysgol Bangor, yn Uwch-ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth. Mae’n arbenigwr ar farddoniaeth cywyddwyr yr Oesoedd Canol, ar fywyd a gwaith T. H. Parry-Williams, ac ar y traddodiad barddol yn ardal Eryri.

Ymhlith ei gyhoeddiadau diweddar y mae Pris Cydwybod: T. H. Parry-Williams (2018) ac Y Gyfrol Ryfedd ac Ofnadwy Honno: T. H. Parry-Williams a Llyfr Melyn Oerddwr (2020). Er 1995 bu’n gyd-olygydd y cylchgrawn Dwned, cylchgrawn sy’n ymdrin â llenyddiaeth a hanes Cymru yn ystod yr Oesoedd Canol.

Yn ogystal â’i gyfraniad i’r byd academaidd Cymraeg, y mae Dr Huws yn weithgar ym mywyd Tal-y-bont. Bu’n Gadeirydd Pwyllgor Papur Pawb ac mae’n Gyn-gadeirydd ar Gyngor Bro Ceulanmaesmawr Ile bu’n gwasanaethu fel cynghorydd er 2012.