Alun Williams yn Ddirprwy Arweinydd

Aelodau Cabinet Ceredigion ‘yn barod i ddechrau ar eu gwaith’

Mererid
gan Mererid

Dydd Gwener, 20fed o Fai 2022, penododd y Cynghorydd Brian Davies ei gabinet newydd i redeg Cyngor Sir Ceredigion sydd yn cynnwys: –

  • Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor â chyfrifoldeb am y Gwasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad a Phartneriaethau
  • Cynghorydd Alun Williams, Dirprwy Arweinydd â chyfrifoldeb am y Gwasanaeth Gydol Oes a Llesiant
  • Cynghorydd Catrin M. S. Davies, Aelod Cabinet ar gyfer Diwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid
  • Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet ar gyfer yr Economi ac Adfywio• Cynghorydd Gareth Davies, Aelod Cabinet ar gyfer y Gwasanaethau Cyllid a Chaffael
  • Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet ar gyfer y Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon
  • Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
  • Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu, Pobl a Threfniadaeth a Diogelu’r Cyhoedd

Mae 3 o’r cynghorwyr – Catrin, Keith a Matthew yn gynghorwyr newydd sbon – tra mae’r 5 arall yn dychwelyd i’r Cyngor. Dim ond Alun oedd yn aelod o’r Cabinet blaenorol, ac mae’n dod a llawer o sgiliau.

Mae’n dda gweld fod y Cabinet yn cynrychioli wardiau ar draws y sir, gydag Alun o Aberystwyth, Gareth o Lanbadarn a Catrin yn cynrychioli Ceulanmaesmawr yng ngogledd y Sir.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Bryan Davies:

“Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio â thîm da o Gynghorwyr a’r Aelodau Cabinet a benodwyd i roi buddiannau Ceredigion yn gyntaf. Mae’r Aelodau Cabinet eu hunain yn frwdfrydig ac yn barod i ddechrau ar eu gwaith.”