Diolch Enfys, wedi mwynhau’r blog byw. Gwych cael digwyddiad rhyngwladol yn ein milltir sgwâr
Mae’n ddiwrnod olaf y Treialon Cŵn Defaid Rhyngwladol ar gaeau Tancastell, Rhydyfelin.
Ers 7.45am bore ma’ mae’r 15 rhedwr gorau o’r ddau ddiwrnod diwethaf yn cystadlu yn y brif bencampwriaeth.
Mae’r cwrs wedi newid a’r amser sydd ganddynt i’w gwblhau bellach yn 30 munud.
Newyddion gwych yw bod Dewi Jenkins, Talybont wedi ennill ei le yn y ffeinal a bydd yn rhedeg 10fed heddiw gyda Jock.
Grêt gweld merch yn rhedeg yn y 15 heddi! Elinore Nilsson o’r Alban.
Clip o rediad Dewi – ma’n cymryd sbel i lwytho clipiau ma!
Dewi wedi rhoi y 5 dafad yn y lloc. Da iawn.
Gobeithio gewn ni ymateb gyda fe yn y man!
Dewi Tyngraig a Jock yn rhedeg nawr.
Ni wedi cyrraedd felly ni’n fyw fyw ma’ nawr!
Y Bencampwriaeth wedi ail ddechrau gyda Alistair Lyttle yn rhedeg gyda Twm.
Cysylltiad lleol gan mae ei wraig yw Gwenan Morgan, Tregaron.
Enillydd yr ‘young handler’ yw Peter Morgan o’r Iwerddon. Llongyfarchiadau mawr iddo.
Y criw ifanc sydd wrthi’n dangos eu doniau ar hyn o bryd. Mae ’na un o bob un o’r 4 gwlad yn rhedeg ac mae Elgan Jarman newydd agor y gystadleuaeth yn cynrychioli Cymru.
Ni ddim ar y cae eto ond yn gwylio’r cyfan yn fyw.
Mae canmoliaeth uchel i’r gwasanaeth yma sydd wedi galluogi pawb i fwynhau’r treialon, er nad yw eleni yn ddigwyddiad sy’n agored i’r cyhoedd.
Ar hyn o bryd mae bron 200 o bobl yn cymryd mantais o’r darlledu byw yma.
Dyw hi ddim rhy hwyr i chi fanteisio ar y darlledu gwych – Gwefan ISDS (International Sheep Dog Society)
Ewch draw i’r linc yma am fwy o fanylion.