Tair Muskateer yn clirio dros hawliau

Criw o wirfoddolwyr Rhyddid Rhag Artaith yn glanhau strydoedd Aberystwyth

gan Sue jones davies
dangos y tair muskateerSue Jones Davies (CC BY-SA 2.0)

Unwaith eto, mae Rhyddid Rhag Artaith (Freedom From Torture) wedi bod ar strydoedd Aberystwyth yn casglu sbwriel i godi arian. Grŵp yw hwn sydd yn ymgyrch am hawliau i ffoaduriaid a rhai sydd yn cael eu areithio ar draws y byd.

Ymunodd eraill â’r tair muskateer sydd yn y llun ar ddydd Sul diweddaf (16-5-2021) i gwblhau’r dasg o dacluso ein tref.

Cliriodd y glaw, daeth yr haul allan ac roedd y gwirfoddolwyr yn falch i’w weld bod y strydoedd yn gymharol lân a wnaeth eu gwaith yn llawr haws!

Dyma hanes eu gwaith blaenorol: –

Hoffent ddiolch i bawb sy’n cefnogi eu gwaith a’u galluogi i anfon arian at yr elusen sy’n wir ei angen.

Os hoffai unrhyw un wneud cyfraniad tuag at y casgliad, ewch i dudalen Facebook Aberystwyth Freedom From Torture  neu Twitter neu cyfrannwch yma.