Rhyddid Rhag Artaith

Codi arian

gan Sue jones davies
IMG_20201115_1106572

Rhyddid Rhag Artaith

Aeth criw o bobl mâs yng nghanol Aberystwyth dydd Sul 15 o Dachwedd i gasglu sbwriel i godi arian at Rhyddid Rhag Artaith. Pwrpas yr elusen hon yw helpu rhai sydd wedi gorfod ffoi o’u gwlad oherwydd erledigaeth ac artaith.

Fe wnaethon ni lanw 10 sach o sbwriel gan gynnwys 30 o fasgiau wyneb.

Erbyn heddiw yr ydym wedi codi tua bron i £200.

Os hoffai unrhyw un wneud cyfraniad tuag at y casgliad, ewch i dudalen Facebook Aberystwyth Freedom From Torture  a dilynwch y cyfarwyddiadau a roddir yna.