Rhannu gwybodaeth yn fwy lleol

Heddlu Dyfed Powys yn sefydlu tudalen facebook i ardal Aberystwyth

Enfys Medi
gan Enfys Medi

Wythnos yma mae Heddlu Dyfed Powys wedi sefydlu tudalennau ‘facebook’ sy’n benodol i ardaloedd llai o’r diriogaeth helaeth maent yn gwasanaethu. Diolch i Ben o dîm cyfathrebu corfforaethol Heddlu Dyfed Powys am esbonio pam ei bod nhw wedi sefydlu’r dudalen.

Rydyn ni’n ymwybodol bod nifer fawr o bobl yn ein cymunedau yn defnyddio Facebook pob dydd, ac yn derbyn a darllen y newyddion diweddaraf ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae’n bwysig iawn ein bod ni, fel Heddlu, yn ymwybodol o hyn ac y darparu ein gwasanaeth yn y ffyrdd mwyaf cyfleus i’n cymunedau.

Efallai eich bod chi eisoes yn dilyn tudalen Heddlu Dyfed Powys ac yn gweld ei fod yn cael ei ddiweddaru’n gyson gyda gwybodaeth am apeliadau, digwyddiadau ayyb ond maent yn dod o bob cŵr o ardal Dyfed Powys.

Bydd y tudalennau newydd yma yn rhoi gwybodaeth ddiweddaraf am waith ein tîm Heddlu lleol mewn un lle, yn hawdd i gymunedau dod o hyd iddo, ac ar blatfform maen nhw’n defnyddio pob dydd. Mae’r tudalennau yn seiliedig ar ardaloedd penodol, er mwyn sicrhau bod pobl yn medru derbyn y wybodaeth, newyddion, a diweddariadau perthnasol iddyn nhw a’i milltir sgwâr, gan eu tîm lleol

Cewch draw i ddilyn y dudalen newydd yma sy’n benodol i ardal Aberystwyth a Machynlleth.

https://www.facebook.com/DPPAberystwyth/