Penrhyn yn Cipio’r Penawdau

Llongyfarchiadau i Benrhyn ac i Aberystwyth ar ennill eu gemau yng Nghwpan Nathaniel MG.

Huw Llywelyn Evans
gan Huw Llywelyn Evans
DSC_0160b

Am benwythnos i Benrhyncoch wrth iddynt ennill yn erbyn Y Seintiau Newydd yn rownd gyntaf Cwpan Nathaniel MG o ddwy gôl i un!

Ychydig ddiwrnodau ynghynt, Y Seintiau Newydd oedd yn cipio’r penawdau ar ôl iddynt ennill yn erbyn un o dimau gorau’r Weriniaeth Tsiec, Viktoria Plzen, o bedair gôl i ddwy yng nghymal cyntaf trydedd rownd rhagbrofol Cyngres Europa. Er yn rhoi saib i rai o’r chwaraewyr, roedd tîm y Seintiau a deithiodd i Gae Baker y Sadwrn diwethaf yn dal yn un cryf. Roedd yn cynnwys chwaraewyr fel Roberts a Bradford oedd wedi chware’n rheolaidd ar fenthyg i Aberystwyth y tymor diwethaf a Beau Cornish oedd wedi ymddangos yn rhai o gemau’r Seintiau yng Nghyngres Europa. Roeddynt hefyd wedi ennill Cwpan Cynghrair Cymru 9 o weithiau yn y gorffennol.

Felly llongyfarchiadau mawr i Benrhyn am greu sioc y rownd wrth i goliau naill ochr i hanner amser gan Taylor Watts o’r smotyn ac Ifan Burrell sicrhau buddugoliaeth gofiadwy i Benrhyn. Er i Beau Cornish sgorio i’r Seintiau, llwyddodd Penrhyn i gadw’r fantais tan y diwedd gyda Jenkins yn y gôl yn cael gêm arbennig. Mawr oedd y dathlu rwy’n siŵr ac roedd y cyfrif Trydar yn brysur iawn wedi’r gêm!

Rwy’n siŵr fod Jonathan Foligno yn arbennig o hapus hefyd. Fe sgoriodd i Aberystwyth yn erbyn Y Seintiau’r tymor diwethaf ond fe sgoriodd Y Seintiau gôl hwyr i ddod a’r timau’n gyfartal. Roedd o fewn trwch blewyn i fuddugoliaeth y tro diwethaf ond fe aeth un cam yn well y tro yma gyda Phenrhyn yn ennill!

Aberystwyth

Llongyfarchiadau i Aberystwyth ar ei buddugoliaeth yn erbyn Pen-y-bont yng Nghwpan Nathaniel MG – tîm a orffennodd yn bedwerydd yn Uwch-gynghrair Cymru JD y tymor diwethaf. Cyfartal un gôl yr un oedd hi ar Goedlan y Parc wedi 90 munud. Matty Jones yn dod ac Aberystwyth yn gyfartal wedi iddo sgorio o’r smotyn tua wyth munud o’r diwedd.  Felly’n syth i giciau o’r smotyn (dim amser ychwanegol)!

Roedd y cyffro’n parhau wrth i’r ddau dîm fethu ciciau o’r smotyn gyda Pennock yn y gôl i Aber yn arbed sawl cic. Cyrhaeddodd y sgôr 4-4 ac wrth i’r ddau dîm ddal i fethu ciciau fe sgoriodd Owain Jones i sicrhau bod Aber yn ennill y ciciau o’r smotyn o bum gôl i bedair ac yn mynd ymlaen i’r rownd nesaf.

Am ddechrau i’r tymor pêl-droed!