Lleucu o Dole yn cipio Medal Daniel Owen 2021

Brodor o Dole yn ennill prif wobr yn Eisteddfod Amgen 2021

Mererid
gan Mererid

Enillydd Medal Daniel Owen Eisteddfod Amgen 2021 yw Lleucu Roberts.

Yn wreiddiol o Dole, ac yn gyn-ddisgybl Ysgol Rhydypennau ac Ysgol Penweddig, bu Lleucu hefyd ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn mynd i weithio gyda’r Lolfa yn Nhalybont.

Mae bellach yn byw yn Rhostryfan. Mae’n gwneud bywoliaeth o ysgrifennu nofelau a sgriptio ar gyfer y radio a’r teledu. Mae hi wedi ennill gwobr Tir na n_Og ar sawl achlysur ac enillodd Wobr Goffa Daniel Owen a’r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014, y person cyntaf i gipio’r ddwy brif wobr ryddiaith yn yr un flwyddyn.

Mae modd i chi brynu’r gyfrol yn eich siop lyfrau leol, gwefan Gwales a gwefan y Lolfa.