Gohirio noson tân gwyllt Bow Street

Yn sgil yr amgylchiadau presennol, penderfynwyd peidio cynnal y digwyddiad arferol eleni 

gan Anwen Pierce

Gwaetha’r modd, mae Clwb Pêl-droed Bow Street a Chymdeithas Maes Chwarae Rhydypennau wedi gorfod cymryd y penderfyniad anodd i beidio cynnal sioe tân gwyllt ar Gae Piod eleni. Dywedodd cadeirydd y Gymdeithas, Rhodri Morgan, “Mae pwyllgor y gymdeithas, ynghyd â swyddogion y clwb, wedi trafod y mater, ac mae’r cynnydd mewn achosion ar draws gogledd Ceredigion yn golygu bod angen i ni flaenoriaethu buddiannau ehangach a diogelwch ein cymuned.” Ychwanegodd Wyn Lewis, cadeirydd clwb y Piod, “Mae nifer o ganllawiau diogelwch sy’n rhaid i ni eu hystyried, er bod y digwyddiad yn un awyr agored. Gobeithiwn gynnal y noson boblogaidd hon y flwyddyn nesa, yn ogystal â’n gŵyl bêl-droed flynyddol – a’r ddau ddigwyddiad, gobeithio, yn well nag erioed.”