Crime Cymru yn cartrefu gŵyl ffuglen drosedd yn Aberystwyth

Cyfle i ddysgu mwy am yr ŵyl sydd ar y ffordd i Aber yn 2022. 

Enfys Medi
gan Enfys Medi
Logo_gwylcrimecymru
meet-the-guvnors_gwylcrimecymru

Un o sesiynau yr ŵyl rhithiol yng nghwmni cyd-gadeiryddion Crime Cymru sef Alis Hawkins a Matt Johnson. Un o aelodau eraill Crime Cymru, Jacky Collins oedd yn cadeirio’r sgwrs.

Ym mis Mai flwyddyn nesaf bydd dirgelwch yn llenwi strydoedd Aberystwyth wrth i Crime Cymru ddod a gŵyl Crime Cymru yn fyw i’r dref. Y bwriad yw cynnal penwythnos o weithgareddau amrywiol dros dridiau gŵyl y banc Calan Mai.

Eleni, roedd pethau yn dra gwahanol wrth i’r Ŵyl cael ei chynnal ar lein – 18 digwyddiad dros wyth diwrnod.

Cefais sgwrs ddifyr gydag Alis Hawkins, cyd-gadeirydd Crime Cymru a roddodd i mi flas o lwyddiannau’r Ŵyl eleni a’r hyn gallwn ddisgwyl yn Aberystwyth y flwyddyn nesaf.

‘Roedd gŵyl Crime Cymru 2021 wedi mynd tu hwnt i’n disgwyliadau. Ein gobaith oedd bod 1500 o bobl wedi ymuno gyda ni yn fyw yn y gweithgareddau. Roedd posib archebu tocynnau am ddim ond roedd rhaid cofrestru ymlaen llaw. Cafwyd ymateb rhagorol a 3300 wedi cofrestru ar gyfer digwyddiadau. Erbyn hyn mae pob un o’r digwyddiadau ar sianel youtube Crime Cymru ac mae 4000 arall wedi ymweld. Rydym wrth ein bodd gyda’r ymateb.’

Gallwch fynd draw i Sianel Youtube Crime Cymru i bori drwy’r digwyddiadau.

Un digwyddiad Cymraeg oedd eleni a rhoddir sylw iddo yn rhifyn cyfredol Golwg. Bwriad y criw tu ôl i’r ŵyl yw cyflwyno mwy o sesiynau Cymraeg y flwyddyn nesaf gyda nifer o awduron eisoes wedi dangos diddordeb i fynychu.

Tybed felly beth oedd uchafbwyntiau Alis o Ŵyl 2021.

‘Mae’n rhaid i mi sôn am 4 digwyddiad yr oeddwn ynghlwm a fy hunan, cadeirio’r panel mewn dau sesiwn a chael fy nghyfweld yn y ddau arall. Ond fel gwyliwr y sesiwn wnes i fwynhau fwyaf oedd ‘Historical Crime – Why look back’ yng nghwmni S G MacClean ac Elly Griffiths gyda Kath Stansfield yn cadeirio. Roedd yn gyfweliad hollol anhygoel a wnes i fwynhau gymaint. Cafwyd llawer o sylwadau da am y digwyddiad.’

O edrych ar wefan Crime Cymru mae’n amlwg taw un o’r prif nodau yw hyrwyddo a dathlu ffuglen trosedd Cymreig. Sonia Alis fod awduron Cymreig am osod eu cymeriadau mewn cyd-destunau Cymraeg a bod hyn yn elfen unigryw gallant gynnig i fyd y ffuglen drosedd. Rhoddir pwyslais hefyd ar gyfrannu at ddatblygu talent newydd.

I’r perwyl yma mae cystadleuaeth gwobr nofel gyntaf Crime Cymru ar gael i awduron sydd heb eto gyhoeddi nofel. Cynigir gwobr ar gyfer y nofel Gymraeg orau a’r nofel Saesneg orau a’r dyddiad cau yw 21 Medi 2021. Ceir manylion llawn y gystadleuaeth yma ar wefan Crime Cymru.

Beth sydd ar y gweill felly ar gyfer yr Ŵyl fyw yn Aberystwyth flwyddyn nesaf? Dyma ofyn i Alis..

‘Ni’n bwriadu dechrau ar y nos Wener gyda gorymdaith llusern i’r castell. Cynhelir 20 o ddigwyddiadau ar draws y dydd Sadwrn, Sul a Llun ac mae pob un o gyfranwyr gŵyl 2021 wedi dweud eu bod am ddod i Aberystwyth flwyddyn nesaf. Mi fydd yna gwis tafarn i awduron a’r cyhoedd yn ogystal â gweithdai ar ysgrifennu ffuglen drosedd a chyfle i gwrdd a chyhoeddwyr. Nos Sul cynhelir derbyniad siampên a hon fydd noson wobrwyo enillwyr y nofel gyntaf ffuglen drosedd yn Gymraeg a Saesneg. Mae cynlluniau ar y gweill hefyd i gynnal noson lawen a fydd yn croesawi bobl i Aber a rhoi blas iddynt o ddiwylliant Cymraeg gan ei fod yn ŵyl ryngwladol.’

Edrychwn ymlaen at weld sut mae’r trefniadau yn datblygu ac i glywed mwy am weithgareddau’r ŵyl. Cyfle arall i roi sylw i Aberystwyth ar lwyfan rhyngwladol. Pob hwyl i griw Crime Cymru gyda’r cynllunio a diolch i Alis am roi o’i hamser am sgwrs.