Côr Ger y Lli

Hoffi canu? Côr yn chwilio am aelodau newydd

Kerry Ferguson
gan Kerry Ferguson

Ar ôl deunaw mis hir, mae Côr Ger y Lli yn ôl at yr hyn maen nhw’n ei wneud orau – canu!

Wedi’i sefydlu gan Gregory Vearey-Roberts bron i 18 mlynedd yn ôl, mae Côr Ger y Lli yn gôr merched poblogaidd sydd wedi’i leoli yn ardal Aberystwyth.

Ar ôl dychwelyd i ymarfer, mae’r côr yn canolbwyntio ar Eisteddfod Genedlaethol 2022 yn Nhregaron.

Dywedodd Greg, sydd yn arwain y côr :

“Os yw’r 18 mis diwethaf wedi dysgu unrhyw beth i ni, mae wedi dangos pwysigrwydd canu a cherddoriaeth ar gyfer lles meddyliol.”

Mae Côr Ger y Lli bellach yn chwilio am aelodau newydd i ymuno wrth iddynt ddychwelyd i ymarfer wythnosol. Mae’r Côr yn agored i bawb ymuno, ac maent hefyd yn croesawu dysgwyr Cymraeg.

“Mae Ger y Lli wastad wedi croesawu unrhyw un i fyd canu, ac rydym nawr yn edrych i agor ein drysau unwaith eto i unrhyw un a hoffai ymuno â ni. Dros y misoedd nesaf mae gennym gynlluniau cyffrous iawn yn enwedig yn y cyfnod cyn yr Eisteddfod Genedlaethol,”

“Galla i ddim ond dychmygu faint o gorau fydd yn cystadlu yn 2022!”

Gohebydd Golwg360

Ymateb arweinydd Côr Ger y Lli i ganslo Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion eleni

Mae’r côr yn ymarfer ar nos Fercher am 7yh, sydd ar hyn o bryd yn Neuadd y Pentref ym Mhenrhyn-coch oherwydd rheolau Covid-19, ond y gobaith yw dychwelyd i leoliad yn Aberystwyth yn y dyfodol. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno, neu gael gwybod mwy, cysylltwch â Greg ar gerylli@gmail.com.

Dilynwch nhw ar Facebook neu Twitter.