Chwilio am luniau o Aberystwyth i galendr gefeillio

Galw am ymgeiswyr i’r gystadleuaeth am ffotograffau o Aberystwyth

gan Sue jones davies

Tywydd garw yn Aberystwyth – Llun Golwg360

Ym Mehefin 2021, cyhoeddwyd fod Cymdeithas Partneriaeth Pobl Aberystwyth ac Esquel (AEPPA) cynnal cystadleuaeth ffotograffiaeth o Aberystwyth.

Cystadleuaeth lluniau Aberystwyth dros 12 mis

Sue jones davies

Beth am dynnu lluniau o Aberystwyth i gael eu cynnwys mewn calendr ar gyfer 2023?

Ar gyfer pob un o’r misoedd hynny, byddwn yn dewis ffotograff o Aberystwyth a ddefnyddir mewn calendr 2023. Gwerthir y calendr yn Eisteddfod 2022 Tregaron, gyda’r elw’n cael ei ddefnyddio i gefnogi gweithgareddau gefeillio.

Dyma’r themâu ar gyfer y ffotograffau bob mis:

Mehefin 2021: Y dreftadaeth ddiwylliannol a rannwn

Gorffennaf 2021: Ein tirweddau mawreddog (ucheldiroedd)

Awst 2021: Ein bioamrywiaeth enwog (anifeiliaid/adar/pryfed)

Medi 2021: Y bobl sy’n bwysig yn ein golwg (hŷn)

Hydref 2021: Agweddau cymdeithasol/artistig bywiog ein byd

Tachwedd 2021: Ein tywydd cyfnewidiol yn yr hydref/gaeaf

Rhagfyr 2021: Ein syniadau ffrwythlon (thema agored i ddangos syniadaeth neu ddirnadaeth wreiddiol/newydd

Ionawr 2022: Ein treftadaeth adeiledig (adeiladau/rheilffyrdd)

Chwefror 2022: Ein tirweddau mawreddog (iseldiroedd)

Mawrth 2022: Ein bioamrywiaeth enwog (planhigion fel coed/blodau)

Ebrill 2022: Ein tywydd cyfnewidiol yn y gwanwyn/haf

Mai 2022: Y bobl sy’n bwysig yn ein golwg

Dyw hi ddim rhy hwyr i chi anfon eich lluniau am fisoedd blaenorol, felly ewch ati i weld pa luniau sydd gennych chi ar gael.

Rheolau’r Gystadleuaeth:

1) Rhaid i’r ffotograffau ar gyfer pob mis gael eu hanfon mewn e-bost at Gadeirydd CPPAE, stephentooth@gmail.com. Dylid atodi’r ffotograffau at y neges e-bost fel delwedd TIFF neu JPEG sy’n ddigon eglur i gael ei hatgynhyrchu o bosibl ym maint tudalen A4 llawn (DPI 300). Oherwydd ei bod yn bosibl y bydd nifer o geisiadau’n cael eu cyflwyno, ni anfonir cydnabyddiaeth bod y ffotograffau wedi eu derbyn.

2) Caiff y ffotograffau eu beirniadu a’u dethol gan banel bach; dewisir enillydd i Aberystwyth ac enillydd i Esquel bob mis, ac fe gyhoeddir y buddugol erbyn diwedd y mis canlynol. Bydd penderfyniad y Panel Beirniaid yn derfynol.

3) Caiff y ffotograffau eu hasesu ar sail amrywiol feini prawf, gan gynnwys: addasrwydd i thema’r mis; ansawdd y cyfansoddiad; a’r ffordd y maent yn cyd-daro â ffotograffau eraill a ddewisir. Y nod cyffredinol yw creu portffolio o ddelweddau safonol yn cydweddu â’i gilydd ar draws y misoedd, sy’n dathlu nodweddion arbennig ein dwy dref wrth i’r tymhorau newid.

4) Wrth gyflwyno ffotograffau, dylid cynnwys capsiwn byr o wybodaeth (un frawddeg- 30 gair yn fras), sy’n cynnwys manylion cryno am yr hyn a welir yn y llun, ble a phryd y cafodd ei dynnu, ac enw’r ffotograffydd). Os defnyddir y ffotograff, bydd trefnwyr y gystadleuaeth yn cadw enw’r ffotograffydd, ond yn cadw’r hawl i olygu’r ffotograff a’r capsiwn fel y bernir yn briodol.

5) Yn ddelfrydol, dylai’r ffotograff a gyflwynir i’r gystadleuaeth fod wedi ei dynnu yn y mis dan sylw a’r flwyddyn dan sylw, er nid yw hyn yn hanfodol os oes ffotograffau personol ar gael sy’n cyfateb i’r thema. Mae hyn yn arbennig o wir os yw cyfyngiadau COVID-19 yn parhau ac yn rhwystro teithio neu atal digwyddiadau cymdeithasol yn y misoedd dan sylw.

6) Rhaid i’r ffotograffau fod wedi eu tynnu yn Aberystwyth a’r cyffiniauneu Esquel a’r cyffiniau (diffiniad ‘cyffiniau’ yw o fewn taith resymol mewn car (e.e. taith awr o’r ddwy dref). Mae gan drigolion Aberystwyth a’r cyffiniau hawl i gyflwyno ffotograffau personol o Esquel, ac fel arall, os cawsant eu tynnu ar deithiau yn flaenorol (gweler rheol 5).

7) Rhaid i’r rhai sy’n cyflwyno ffotograffau ar gyfer eu hystyried ddatgan mai hwy ei hun sydd wedi cymryd y ffotograff a chytuno iddo gael ei ddefnyddio a’i ddosbarthu o bosibl gan drefnwyr y gystadleuaeth (e.e. ei roi ar dudalen CPPAE ar Facebook, ei gynnwys yn y calendr). Ni chaniateir cyflwyno delweddau stoc, delweddau a gafwyd ar y we neu gyfryngau cymdeithasol, neu ddelweddau a gymerwyd gan deulu/gyfeillion a’u cyflwyno ar eu rhan.

8) Os cyflwynir ffotograffau lle mae unigolion i’w gweld yn agos (h.y. lle mae modd adnabod y bobl yn amlwg) rhaid cael caniatâd yr unigolion hynny. Cyfrifoldeb y ffotograffydd yw rhoi datgeliad llawn o ddefnydd posibl y llun, i gael caniatâd yr unigolion yn y llun iddo gael ei ddefnyddio i’r diben hwnnw, ac i ddatgan bod caniatâd wedi’i roi wrth gyflwyno’r ffotograff i’w ystyried.

9) Os, yn unrhyw fis penodol, na dderbynnir unrhyw gyflwyniadau addas, mae’r panel beirniaid yn cadw’r hawl i beidio â chyhoeddi enillydd a/neu i gynnwys yn y calendr ffotograff ar thema addas a gafwyd o ffynhonnell arall.

10) Bydd gan y calendr terfynol themâu yn eu trefn ar gyfer misoedd 2023 h.y. Ionawr i Ragfyr

Nid oes angen tynnu ffotograffau o reidrwydd yn ystod y misoedd a nodir ond dylent adlewyrchu’n fras natur y tymor priodol yn y ddau hemisffer.