Cystadleuaeth lluniau Aberystwyth dros 12 mis

Beth am dynnu lluniau o Aberystwyth i gael eu cynnwys mewn calendr ar gyfer 2023?

gan Sue jones davies

Mae Cymdeithas Partneriaeth Pobl Aberystwyth ac Esquel (AEPPA) yn rhoi 12 rheswm i werthfawrogi’r gefeillio rhwng Aberystwyth-Esquel drwy gystadleuaeth tynnu lluniau.

Bu 2020 a 2021 yn flwyddyn anodd i bawb. Yn ystod pandemig COVID-19, mae cynnal cysylltiadau cymdeithasol gyda theulu a ffrindiau agos wedi bod yn anodd, heb sôn am y rhai sy’n byw ymhellach i ffwrdd. Mae’r pandemig yn parhau i gyfyngu ar gyfleoedd teithio, gan gynnwys ar draws Cefnfor yr Iwerydd, ond mae’r Gymdeithas yn awyddus i gynnal, hyrwyddo a thyfu’r cysylltiadau rhwng ein cymunedau gefeillio.

Hoffai AEPPA wahodd pobl i gyflwyno ffotograffau sy’n dathlu gwerthoedd cyffredin ein cymunedau gefeillio: Aberystwyth ac Esquel.

Rydym yn cael cystadleuaeth ffotograffig sydd yn dilyn thema ar gyfer pob mis rhwng Mehefin 2021 a Mai 2022.

Ar gyfer pob un o’r misoedd hynny, byddwn yn dewis ffotograff ar y thema o Aberystwyth ac o Esquel, a gall y ffotograffau hyn fod yn sail ar gyfer calendr 2023. Bydd y calendr yn cael ei werthu yn Eisteddfod 2022 yn Nhregaron, gyda’r elw’n cael ei ddefnyddio i gefnogi gweithgareddau gefeillio.

Thema Mehefin yw ‘Ein treftadaeth ddiwylliannol gyffredin

Thema Gorffennaf yw ‘Ein tirweddau ysblennydd (ucheldiroedd)

Nid oes angen tynnu ffotograffau o reidrwydd yn ystod y misoedd a nodir ond dylent adlewyrchu’n fras natur y tymor priodol yn y ddau hemisffer.

Aelodau’r Gymdeithas yn diddanu ymwelwyr yn 2019

Gellir dod o hyd i delerau ac amodau llawn ar gyfer cyflwyno a defnyddio ffotograffau ar gyfer y themâu hyn a’r ‘misoedd eraill’ trwy e-bostio Cadeirydd AEPPA (Stephen Tooth): stephentooth@gmail.com.

Bydd cystadleuaeth gyfatebol yn cael ei chynnal yn Esquel drwy’r Sbaeneg, ond mae croeso i chi anfon eich lluniau chi o Esquel os ydynt yn cyd-fynd a’r thema.

Mae’r Gymdeithas yn edrych ymlaen at weld y ceisiadau a gobeithio y byddwn yn gallu rhannu detholiad ar y dudalen Facebook.