Athletwyr Aber yn dychwelyd i rasio

Mae wedi bod yn amser prysur i aelodau Clwb Athletau Aberystwyth gan fod llawer o rasys bellach wedi ail-gychwyn ac aelodau’r clwb lleol wrth eu bodd.

gan Deian Creunant

Damian Sidnell

Lynwen Huxtable

Anita a Balazs

Hanner marathon Birmingham

10k Amwythig

Ar Ynys Môn cynhaliwyd y ras hynod heriol, Ring o‘Fire. Mae’r ultra marathon arfordirol hon yn gofyn i redwyr gwblhau 135 milltir o amgylch yr ynys a hynny dros dri diwrnod yn unig. Bu dau aelod o glwb Aber, Anita Worthing a Balázs Pinter, yn ddigon dewr i ymgymryd â’r her anhygoel hon yn ddewr ac mae’n arwydd o ba mor anodd yw’r ras hon o ystyried fod 92 wedi cychwyn, ond dim ond 40 a lwyddodd i orffen.

Cwblhaodd y ddau redwr y 36 milltir ar y dydd Gwener ond gorfodwyd Anita i adael y ras ar ôl cwblhau 69 milltir erbyn diwedd yr ail ddiwrnod oedd yn ei hun yn lwyddiant sylweddol. Fodd bynnag, aeth Balázs yn ei flaen a pharhau i redeg yn gryf ac yn gyson, gan gwblhau’r 135 milltir.

Dywedodd Anita,

“Mae’n debyg mai hon yw’r ras anoddaf i mi ei gwneud erioed gyda’r dirwedd yn amrywio o lonydd gwledig, traethau graean, arwynebau creigiog, caeau glaswellt – popeth a dweud y gwir! Roedd y gefnogaeth yn wych ar hyd y ffordd ac roedd y golygfeydd godidog yn gymorth i anghofio’r poen! Er hynny,  fyddai ddim yn colli cael fy neffro am 5am bob bore gan fersiwn o gân Johnny Cash, Ring o’Fire yn cael ei bloeddio!”

Yn nes adref, dychwelodd ras lwybro 10k Coed y Brenin a mentrodd 17 aelod o Aberystwyth i’r gogledd i redeg trwy barc coedwig Gwynedd. Y cyntaf o griw Aber i orffen oedd Edward Land gydag amser o 42:06 ac yn agos ato, Gary Wyn Davies (44:04) a Mark Whitehead (46:22). Cafwyd buddugoliaeth categoriau hefyd wrth i Damian Sidnell ennill y categori dynion dros 60 oed gydag amser o 49:58 a oedd, gyda llaw, yr amser cyflymaf yn y categori dynion dros 50 oed a chipiodd Lynwen Huxtable y tlws ar gyfer y ddynes gyflymaf yn y categori dros 50 oed gydag amser o 54:36.

Y rhedwyr eraill oedd Ivan Courtier, Mel Hopkins, Karen Kemish, Karen Davies, Deian Creunant, John Gwynn Evans, Jade Gaitely, Linda Paasman, Cara Nisbet, Lyndsey Wheeler, Helen Williams a Rachel Richards.

Dros Glawdd Offa, bu wyth o’r aelodau yn cymryd rhan yn Hanner Marathon Birmingham, ras ar hyd llwybrau’r gamlas o Wolverhampton i Brindley Place yn Birmingham a ras 10k Hatfields Amwythig, llwybr a arweiniodd y rhedwyr ar ffyrdd caeedig trwy’r dref farchnad, ardaloedd preswyl a thros brif bontydd y dref.

Yn Birmingham enillodd Edward Land y categori dynion 40 oed a hŷn gydag amser o 1:21:24 tra gwnaeth Ivan Courtier arwain tim Aber yn Amwythig gydag amser o 44:11.

Y lleill yn cynrychioli Aberystwyth yn y rasys hyn oedd Paul Williams, Cara Nisbet, Lyndsey Wheeler, Helen Williams, Wendy Williams, Julie Williams, Rachel Lilley a Rachel Richards.

Mae cadeirydd Clwb Athletau Aberystwyth, Ian Evans, wrth ei fodd bod rasys wedi dychwelyd,

“Mae sesiynau hyfforddi’r clwb wedi ailddechrau ers cryn amser bellach ond mae aelodau’n mwynhau cymryd rhan mewn rasys gan ei fod yn ffordd wych o gystadlu yn erbyn rhedwyr eraill a chefnogi’r digwyddiadau amrywiol. Mae Parkrun hefyd yn ôl sy’n weithgaredd wythnosol gwych a byddwn yn annog unrhyw un, beth bynnag fo’ch lefel, i gymryd rhan – dechrau gwych i’ch penwythnos!”

Gobeithio bod gweld y rasys hyn yn dychwelyd yn arwydd o’r hyn sydd ar y gorwel ac os hoffech glywed mwy am Glwb Athletau Aberystwyth ac ymuno yn ei weithgareddau ewch i aberystwythac.wordpress.com neu chwiliwch am y clwb ar Facebook.