Atgofion Glan: y diddanwr prysur fu’n gweithio gyda Ryan a Ronnie a Ken Dodd

“Un hael ei gymwynas yw Glan ac mae cymaint o achosion da wedi elwa o’i amser, ei egni a’i hiwmor. Mae’n arwerthwr heb ei ail ac wedi cynnal nifer o ocsiynau i godi arian dros wahanol fudiadau. Ac mae Glan yn llwyddo i gael punt ychwanegol allan o Gardi bob tro. Ei dalent yw adnabod ei bobl, a gwybod sut mae eu parchu a’u pryfocio ar yr un pryd.” Elin Jones AS

gan Gwenllian Jones

Yr wythnos hon, cyhoeddir atgofion un o ddiddanwyr mwyaf cyfarwydd Cymru – Glan Davies.

Mae O’r Aman i’r Ystwyth wedi’i ysgrifennu ar y cyd ag Alun Wyn Bevan, a fagwyd ar yr un stryd â Glan ym Mrynaman.

Meddai Glan Davies:

“Mae yna dipyn i’w ddweud a llu o atgofion mewn ystod eang o feysydd, gan gynnwys atgofion yng nghwmni rhai o hoelion wyth Cymru. Mae’r holl ddiddordebau yn golygu bod bywyd wedi bod yn brysur iawn!”

Mae Gareth Jones wedi adnabod Glan yn dda ar hyd ei oes, ac meddai yn y Cyflwyniad i’r gyfrol:

“Gloywodd y doniau byrlymus hyn yn gynnar iawn o fewn y pentre. Byddai ei dalentau cyhoeddus yn amlygu eu hunain yn y capel, mewn sioeau, cyngherddau, eisteddfodau, comedïau a dramâu. Hyd yn oed yn grwt ifanc byddai yng nghanol pob peth. Allwch chi ddychmygu criw o blant yn chwarae “cynnal cyfarfod” gydag agenda a phopeth wrth law? Dyna Glan.”

Ceir penodau diddorol am dyfu lan – am griced, ac am ei addysg – gan ddisgrifio’r “diwrnod gwaetha’” yn ei fywyd pan ddaeth Mr George, Prifathro Ysgol Gynradd Brynaman a chyhoeddi enwau’r plant oedd wedi pasio’r 11+. Doedd Glan ddim yn un ohonyn nhw, “Ro’n i’n teimlo fel hen fag te.” Ar ôl dilyn cwrs yn y Coleg Technegol lleol, dechreuodd yrfa yn y byd adeiladu. Hefyd bu’n cystadlu yn Eisteddfodau’r capel a gyda’r Urdd, ac wrth ei fodd yn perfformio ar lwyfan.

“Mae wedi bod yn braf hel atgofion a chael cyfle i gydnabod y cyfeillion ’nath fy nysgu a’m hysgogi – heb eu cyfraniad nhw fyddai fy mywyd yn hollol wahanol,” meddai Glan.

Ceir hefyd hanesion am y byd pop Cymraeg yn y 60au a 70au gan gynnwys straeon am Ryan a Ronnie a dechrau ar Hob y Deri Dando, rhaglen a wnaeth agor y drws i’r byd pop Cymraeg. Bu Glan yn wyneb cyson ym myd adloniant ysgafn S4C ar ôl hyn, gan berfformio ar Noson Lawen ac actio ar Pobol y Cwm.

Ynghyd â’i waith perfformio, mae Glan wedi gwirfoddoli llawer o’i amser at achosion da, gyda’i awydd i wasanaethu pobl, yn arbennig yr anffodusion a’r diymgeledd, yn gryf. Dechreuodd ei ddegawdau o waith elusennol gyda chodi arian i ailadeiladu Clwb Rygbi Aberystwyth ar ôl i’r adeilad losgi’n ulw. Trwy ei ffrind Ronnie Williams, llwyddodd i gael Ken Dodd a’r Diddymen i berfformio.

Mae Glan wedi helpu nifer fawr o achosion da eraill gan gynnwys Plant Mewn Angen, Sefydliad Prydeinig y Galon, Calonnau Cymru ac achosion lleol yn Aberystwyth a Cheredigion, lle mae Glan wedi ymgartrefu.

Drwy siawns, dechreuodd gwmni teithio Teithiau Amser da a Theithiau Glan Tours, a cheir yr atgofion o rai o’r teithiau mwyaf cofiadwy yma yng Nghymru, yn Ewrop ac ar draws y byd.

Mae ‘O’r Aman i’r Ystwyth’ gan Glan Davies ac Alun Wyn Bevan ar gael nawr, £9.99 o’ch siop lyfrau leol neu ar Gwales.