gan
Mererid
![](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/6/2021/09/IMG-20210912-WA0002-640x396.jpg?0)
Dydd Sul, 12fed o Fedi, cafodd cangen Plaid Cymru Glannau Ystwyth awr lwyddiannus eto o gasglu gwastraff yn wardiau Bronglais a Gogledd Aberystwyth.
Daeth 15 o unigolion i helpu – nifer yn gynghorwyr tref a nifer yn drigolion ward Bronglais.
Mae sesiynau casglu gwastraff wedi dod yn ddigwyddiad rheolaidd, ac ar ddydd Sadwrn, 11eg o Fedi, bu YesCymru yn casglu gwastraff yng nghanol Aberystwyth. Rhwng pawb – dylai Aberystwyth fod yn lle taclus iawn. Da iawn Alun Williams am drefnu